28.2.09

Eisteddfod y Dysgwyr.... yn rhy Gymraeg?

Mi wnath pump o'r dosbarth nos y taith draw i ogledd Cymru er mwyn profi hwyl Eisteddfod y Dysgwyr 2009. Roedd 'na dros cant yn y neuadd, tipyn llai nag oedd yno y llynedd, ond cawson ni ddigon o gystadlu a falle gormod o feirniadaethau...?

Roedd Gerallt Pennant a chamerau 'Wedi 7' wedi troi i fyny hefyd, er mwyn ddarlledu darn i'r rhaglen yn fyw, i fynd efo darn a gafodd ei saethu efo un o ddosbarthiadau nos Yr Wyddgrug y ddiwrnod cynt.

A dweud y gwir ges i brofiad hollol gwahanol i'r un arferol gan roeddwn i'n ymwybodol iawn o'r ffaith ro'n i'n eistedd efo criw o ddechreuwyr, a phrin iawn wnes i deimlo eu bod nhw yn deall fawr o'r sgwrs o'u blaenau ar y llwyfan. Doedd dim anhawster efo'r canu neu'r llefaru, ond efo'r beirniadaeth y cystadleuthau, mi fasai tipyn bach o gyfaddawdu ar ran 'lefel' y Gymraeg a defnyddwyd wedi bod yn syniad da yn fy mharn i. Pan wnes i i'r eisteddfod y dysgwyr am y tro cyntaf, roedd gen i gryn dipyn o'r iaith, felly o'n in falch o gael y brawf o drio deall yr hyn a dwedwyd o'r llwyfan, ond does gan myfyrwyr mynediad dim cymaint o'r iaith ag hynny.

Ro'n i'n trio gwneud tipyn o gyfiethu yn ystod y digwyddiad, ond roedd arweinyddes y noson (ac mi wnath hi lwyddo i gadw cyflymder a threfn ar y noson yn eitha dda) yn llym iawn ar ran tawelu pawb cyn ac yn ystod y cystadlu (digon teg am wn i!).

Ond mae'n rhaid i mi ddweud gair i ganmol ymdrechion Craig Owen Jones, wnath camu at y llwyfan efo ei bartner i feirniadu cystadleuaeth newydd, i sgwennu traethawd am ryw elfen o hanes Cymru. (Diben y cystadeuaeth yw i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r ymgyrch i godi cofeb i Lywelyn ap Dafydd, mab Llywelyn Fawr a gafodd ei eni yng Nghastell Hen Blas ym Mhagillt). Mae Craig wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers ychydig o flynyddoedd erbyn hyn, ond wnes i'w gyfarfod ychydig o flynyddoedd yn ôl mewn sesiwn sgwrs yn Yr Wyddgrug. Ar y pryd roedd o newydd wedi dechrau dysgu dosbarth nos tra wneud phd ym Mhangor, wedi iddo fo lwyddo i feistrioli'r Gymraeg mewn cyfnod byr iawn. Erbyn heddiw mae o'n gweithio yn y prifysgol fel darlithwr ar gerddoriaeth poblogaidd Cymraeg a Chymreig.

Mae'n ddrwg gen i, dwi wedi crwydro! yn ôl at y pwnc: Mi lwyddodd Craig a'i bartner (dysgwraig a darlithydd o Brifysgol Harvard) i siarad wrth y dysgwyr mewn ffordd wnath eu galluogi deall ychydig mwy, heb siarad llawer o Saesneg yn uniongyrchol. Mi wnaethon nhw ofyn i'r cynulleidfa am ystyr ambell i air neu derm anghyfarwydd heb fod yn nawddoglyd, a llwyddon nhw osod cydbwysedd da rhwng y dysgwyr llai profiadol a'r rhai rhugl.

Mi ga i fwy o ymateb nos fawrth gan criw y dosbarth nos siwr o fod, ac mae eu hymateb nhw'n hollbwysig gan bod iddyn nhwthau a gafodd y digwyddiad ei threfnu...

1 comment:

Rhys Wynne said...

Mae ambell i siaradwr Cymraeg angen dysgu sut i siarad âdysgwyr. Fel ti'n dweud, gallwch newid y ffordd chi'n siarad heb fod yn nawddoglyd.

Wedi dweud hynn, mae yna rai tiwtoriad o'r Ysgol Gymraeg ym Mhrifysgol Caerydd sy'n gwrthod siarad Cymraeg gyda fy ngwraig (sy'n gwithio yn llyfrgell y brifysgol) a hithau wedi gwetihtio'n galed i ddysgu'r iaith, yn gwisgo bathodyn iaith gwaith ac wedi ceisio dechrua sgwrs â nhw'n Gymrarg ar fwy nag un achlysur.