2.2.09

Eira,...cymhedrol

Cawson ni eira heddiw, fel y rhan mwyaf o Brydain Fawr, ond nid yr eira mawr fel cafodd ein ffrindiau yn y de (hynny yw de Lloegr), eira 'cymhedrol' 'swm i'n ei alw fo. Er gwaethaf hynny, mi lwyddodd fy merch i lithro a syrthio yn drwm ar y palmant tra chwarae tu allan efo ffrindiau. Wedi peth ystyriaeth mi benderfnom ni mynd â hi i'r ysbyty, jysd rhag ofn fel petai, lle darganfodon nhw 'torriad greenstick i'w humerus... Roedd hi'n llawer rhy boenus am ddim ond cleisiau, ond wedi dôs o barasetamol mi ildiodd y poen rhywfaint, ac erbyn 9 o'r gloch roedden ni adre, wedi llai 'na awr a hanner yn yr ysbyty. Ar noson mor peryglus, ac efo plentyn yn cyrraedd 'Adran A&E i Blant' yn gloff pob yn ail munud, ro'n ni'n bles iawn efo'r gwasanaeth a gawson ni,rhywbeth do'n i ddim yn disgwyl i'w gael a dweud y gwir.

Erbyn hyn mae'r hogan yn cysgu, wedi profiad poenus, ond diolch byth gweddol syml ar ran triniaeth, hynny yw 'sling' am gwpl o wythnosau a synnwyr cyffredin ar ran gwneud ei phethau arferol. Gallai pethau wedi bod lot waeth a chymleth!

2 comments:

Linda said...

Helo Neil...gobeithio bydd dy ferch yn teimlo'n well yn fuan.

neil wyn said...

diolch Linda, mae hi'n dipyn yn well heddiw er braidd yn flin dros colli ysgol a disco hefyd! ond mae hi'n gobeithio dychweled bore 'fory