9.3.09

Yn ôl ar 'Seesmic'..

Mae hi wedi bod yn sbel go hir, ond wnes i recordio pwt ar 'seesmic' heno, gwefan arbrofol rhanu fideos. Mi fasai'n braf gweld mwy o fideos Cymraeg yn fana, mae'n digon rhwydd i ddefnyddio.....

5 comments:

Corndolly said...

Wow ! Mae'n wych, os wyt ti'n ddigon dewr ei ddefnyddio fo ! Da iawn ti !

Rhys Wynne said...

Bues i am sesiwn e-ddysgu gyda Phrifysgol Caerdydd tua wythnos yn ôl, ble trafodwyd y gwahanol ffyrdd o ddefnydio technoleg i'r dosbarth. Diddorol gweld bod modd nodi yma mha iaith mae eich fideo ar Seesmic a bod y Gymraeg yn un o'r dewisiadau.

neil wyn said...

Mae'n haws efo gwydren o win yn dy law a dweud y gwir Ro!

Rhys, dwi'n meddwl wnath Suw Charman (Glwb Malu Cachu) ymgyrchu i gael Cymraeg ar y rhestr o ieithoedd, mae hi'n nabod un o sylfaenydd y wefan o'r hyn dwi'n cofio.

Mae'r sesiwn e-ddysgu yn swnio'n diddorol, mi fasai'n braf clywed mwy am hynny, ar dy flog efallai?

Emma Reese said...

Braf dy glywed di eto. Beth sy wedi digwydd i Suw a'r llall a oedd yn gwneud fideos o'r blaen?

Dw i'n gwenud peth tebyg drwy dechnoleg braidd yn hen, sef recordydd tâp, ond faswn i ddim isio cyhoeddi fy Nghymraeg druenus!

neil wyn said...

Dydy Suw ddim wedi gwneud fideo Seesmic ers tua flwyddyn o'r hyn a wela i, ond mae hi'n dal i gyfranu i negesfwrdd gwefan CMC o bryd iw gilydd. Dwi'n methu credu dy fod ti'n siarad Cymraeg 'druenus' o gwbl Emma, os mae dy Gymraeg ar lafar di yn hanner cystal a dy Gymraeg ysgrifenedig, mae'n siwr o fod yn bell o fod yn druenus :)