3.5.09

Castellmai

Mi deithiom ni draw i Wynedd y bore 'ma i fwynhau pryd o fwyd blasus tu hwnt yn awyrgylch hyfryd iawn Castellmai, tŷ siôrsiadd crand yng nghyffuniau Caernarfon. Mi gafodd y bwyd ei darparu gan cwmni o Lanrwst 'Blas ar Fwyd', ac roedd y peth i fod yn sypreis i fy nhad sy newydd troi wyth deg oed. Roedd fy chwaer wedi anfon mam a dad allan am dro er mwyn galluogi i'r bwyd cyrraedd heb fy nhad yn gwybod dim byd amdanhi, ond digwydd bod mi ddaethon nhw yn ôl cyn i'r fan gadael. Wrth cwrs mi siaradodd fy nhad â gyrrwr y fan a dyma fo'n dweud "Mae rhai bobl yn cael parti yn fan'na"! Wel roedd y cath bron a bod allan o'r cwd, ond dwedodd fy nhad dim cyn ar ôl y parti, ond nad oedd o'n disgwyl gweld y teulu i gyd yn fan'na.

Ges i gyfle cael nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg efo aelodau'r teulu dwi ddim yn gweld yn aml iawn, a gathon ni dro bach fyny'r lôn i fwynhau golygfeydd ysblennydd o'r Eifl, Ynys Môn, Castell Caernarfon ac ati.

3 comments:

Emma Reese said...

Penblwydd hapus i dy dad!

Be mae dy deulu Cymraeg yn feddwl fod ti'n dysgu dosbarth Cymraeg?

neil wyn said...

Diolch Emma. Mae Cymru Cymraeg y teulu wastad wedi bod yn cefnogol iawn i fy ymdrechion i ddysgu'r iaith. Ro'n i'n siarad am y dosbarth nos ddoe, ac yn dweud sut mae hi'n fy helpu i i wella fy Nghymraeg. Chwarae teg iddyn nhw, roedden nhw i gyd yn garedig iawn am fy Nghymraeg, sy'n i fi, (yn enwedig o flaen siaradwyr cynhenid y Gymraeg), yn llawn diffygion!

Nwdls said...

Fues i'n aros yno bythefnos nôl. Lle hyfryd!