6.5.09

Dwyiethrwydd.... yn llesol iddyn ni...

Gwyliais i raglen diddorol ar S4/Clic neithiwr (gwasanaeth defnyddiol tu hwnt!), sef un o'r cyfres 'Wynebau Newydd' ar y pwnc dwyieithrwydd. Dwn i ddim os mae rhywun sy wedi 'datblygu' dwyieithrwydd fel oedolyn yn cael eu ystyried yn ddwyieithog yn gwir ystyr y gair? Yn sicr nad ydyn ni yn siarad ein ail iaith 'newydd' fel person a gafodd ei magu yn ddwyieithog, ac mae'n debyg bod dysgwyr yn defnyddio rhan arall o'r ymenydd i brosesi ieithoedd ychwanegol yn gymharu i siaradwyr cynhenid! Ta waeth, yn ôl tystiolaeth o Ganada a gyflwynwyd yn rhaglen mi welais i neithiwr, mae dwyieithrwydd yn llesol iddyn ni ar rhwystro/gohirio 'dementure' megis alzheiners. Ar gyfartaledd mae'n debyg, mae gallu mewn dwy iaith yn gwneud pedwar flynedd o wahaniaeth, hynny yw ni fydd pobl dwyieithog yn diodde o salwch megis hon mor gynnar yn eu bywydau. Mae'r un fath o effaith wedi cael ei gweld efo pobl efo dawn cerddorol, felly mae 'na lawer iawn ymchwil i wneud yn y cyd-destun hon hefyd.

Ym Mhrydain, mae 'na rai sy'n gweld ein dwyieithrwydd cynhenid (hynny yw'r ieithoedd celtiadd sy'n dal i fyw) fel problem yn hytrach na chryfder. Gobeithio rhywdydd yn y dyfodol wnawn ni weld nhw fel rhywbeth llesol, i drysori, yn hytrach na rywbeth i gwyno amdani.....
ond mae dwyiethrwydd cynhenid yn sy'n rhan o brofiad nifer sylweddol o boblogaeth y byd yn rhywbeth i drysori yn hytrach na gweld fel problem

2 comments:

Emma Reese said...

rheswm arall i ddysgu Cymreag felly! Tybed ydy'r bobl sy'n medru nifer o ieithoedd yn llai fyth tebygol o ddiodde o "dementure"?

Anonymous said...

Cofiwch yr oeddech wedi dysgu ac yn siarad Cymraeg cyn dysgu Saesneg, ac yn dallt ond ddim yn ateb yn y Cymraeg ar ol mynd i'r ysgol yn Wallasey.