15.5.09

Golwg 0

Glywais erthygl ar Post Prynhawn yn son am lansiad gwefan Golwg360, felly es i'n syth at y gluniadur er mwyn cael cip sydyn arni. Yn anffodus ges i fy siomi pan welais i ddim ond neges yn dweud nad ydy Internet Explorer yn gallu dangos y tudalen priodol ar hyn o bryd. Dwi'n methu credu roedd sut gymaint o bobl yn trio mynd ar y wefan ar yr un pryd mi grashiodd y wefan ar ei diwrnod cyntaf, ond pwy a wir? mi dria i'n nes ymlaen siwr o fod.

Yn ôl pob son mae'n werth ei gweld, ac fel tanysgrifwr electronig i 'Olwg' dwi'n awyddus i gefnogi prosiect diwetharaf y cwmni, er mae'n well gen i gael rhywbeth yn fy nwylaw i ddarllen, yn lle tudalenau'r we. Camgymeriad oedd tanysgrifio i'r cylchgrawn mewn ffordd electronig yn unig, ac y dyddiau 'ma dwi'n ffeindio fy hun yn mynd o un wythnos i'r llall heb darllen gair o wasg 'Golwg'. Gawn i weld (gobeithio..) pa wahaniaeth mi wnaiff Golwg360....

6 comments:

Corndolly said...

Haia, es i yn syth i'r wefan ac derbyniais i'r un neges, ond gwelais i dolen fach ar waelod y sgrin sy'n dweud 'i'r wefan' Cliciais i yma ac agorodd y dudalen. Ydy hwn yn ymddangos ar dy gyfrifiadur rŵan?

Corndolly said...

newydd meddwl, mae'n well gen i ddarllen rhywbeth dw i'n gallu cael gafael arno yn fy llaw hefyd. Dw i wedi ceisio darllen pethau ar fy ngliniadur yn y gwely, ond mae'n eithaf anodd. Well i ddarllen gylchgrawn, neu llyfr, na sgrin y cyfrifiadur.

Rhys Wynne said...

Fel ddwedodd Crondolly, mae modd clicio ar y botwm isod. Dw i'n meddwl mai nam ar y wefan ydy o nid traffig anhygoel!

Wyt ti wei meddwl cysylltu â Golwg i ofyn os fyddai modd cyfnewid dy dan ysgrifiad electronig am gopi 'go iawn' a chynnig talu'r gwahaniaeth? (Dw i'n cymryd fod tansgrifiad ar-lein yn rhatach)

neil wyn said...

Diolch am y cymhorth. Ar ôl i mi ddilyn y dolen, dwi'n gallu gweld y wefan rwan, ond efo ambell i wagle o hyd, wna i ddal ati beth bynnag...

Mike and Anne said...

Neil,

Diolch yn fawr o dosbath.

Mike & Anne

neil wyn said...

Croeso, dwi'n edrych ymlaen at mis medi!