30.5.09

Sgrîn

Cleciais fy nghopi o gylchgrawn 'Sgrîn' ar lawr y cyntedd y bore 'ma, digwyddiad prin ond un fydda i'n croesawu pob tro. Ges i gyfle da y p'nawn 'ma i eistedd yn ôl yn y tywydd braf i'w darllen, rhywbeth mi wna i mewn un eisteddiad fel arfer, mor ddarllenadwy yw hi! Gyda swniau'r hogan yn chwarae'n fodlon ei byd ym mhwll padlo ei ffrind drws nesaf yn fy nghlustiau, setlais o dan gysgod ymbarel i fwynhau hanner awr o ymlacio wedi wythnos go frysur.

Mae un o'r erthyglau yng nghyfrol yr haf yw am y newidiadau i 'ddigidol'. Yn ôl y wybodaeth, mi fydd trosglwyddwr Moel y Parc, sef yr un sy'n cyrraedd Cilgwri yn diffodd ei signal analog ym mis tachwedd. Mi wnaiff hyn yn golygu na fydd signal ar gael iddyn ni wedyn, yn ôl pob son mae 'na ffordd o rhwystro i raddau'r signal digidol rhag ymledu dros y ffin. Efo'r datblygiadau diweddaraf yn y gwasanaethau band llydan, na ddylai hynny bod gormod o broblem. Dwi'n tueddi gwylio mwy o raglenni S4C yn y dull hon yn barod, er mae'n braf cael y dewis eu gwylio ar y sgrîn 'fawr' hefyd, os dwi isio. Ta waeth, mi wna i edrych mewn o ddifri i'r opsiynau sy'n ar gael ym mis tachwedd, hynny yw 'Sky' neu 'Freesat'

Darllenais i hefyd am gyfres newydd 'Bro' yr un roedd 'Ro' yn siarad amdano yn 'Copa'r Mynydd'. Mi fydda i'n sicr o wylio y cyfres hon...

4 comments:

Corndolly said...

Cyn i ti brynu unrhyw beth neu penderfynu ar Free Sat, rhaid i ti wneud yn siŵr y byddi di'n gallu derbyn S4C. Mae gynnon ni deledu digidol (a HD Ready) ond er bod S4C ar restr y teledu, nad ydyn ni'n gallu ei dderbyn o. Rhaid i ni ddefnyddio Sky, ond dyna pam benderfynon ni ddefnyddio Sky blynyddoedd yn ôl gan fod y signal ar analog ac yn bellach, digidol yn anobeithiol yma.

Corndolly said...

Oedden nhw'n sôn am ddyddiadau eto yn y cylchgrawn? Dw i'n meddwl am gadael y planed cyn hynny :-)

neil wyn said...

Yn ôl cylchgrawn Sgrîn mi fydd y cyfres yn dechrau ar 24ain Mehefin am 8.25. Mae'r 'na restr o lefydd i gael sy'n dechrau efo Treforys ac sy'n rhoi Wrecsam yn trydydd, ond tydy hi ddim yn dweud yn penodol mai dyma fydd trefn y cyfres.

Dwi'n meddwl mi fydd lloeren y ffordd gorau ymlaen ar ran derbyn gwasanaethau Cymraeg yn fa'ma, er mae gynnon ni fan hyn yng Nghilgwri signal Cymreig cryfach nag yn nifer o ardaloedd o Sir y Fflint!

Corndolly said...

Ydy, dw i'n siŵr. Blynyddoedd yn ôl, pan o'n i'n byw yng Nghaerhirfryn, dw i'n cofio derbyn S4C ar y teledu, neu, dylwn i ddweud tudalennau ar Teletext S4C ond mae 'na bobl yn yr ardal 'ma sy ddim yn gallu ei dderbyn hyd at heddiw. Diolch am yr wybodaeth am 'Bro'