25.5.09

Trawsnewidiad y 'Pier Head'

Mae dinas Lerpwl wastad wedi dangos ei ochr gorau i'w 'gwaed bywyd' yr afon Mersi, ond dyddiau 'ma mae gan yr hen lannau llawer mwy i gynnig ymwelwyr, a ffordd arall i'w cyraedd.



Y camlas yn rhannu'r hen a'r newydd

Mae'n cwpl o flynyddoedd ers ro'n i lawr yn y Pier Head, ond pigiais i draw y p'nawn 'ma (tra oedd Jill yn siopa), yn bennaf i weld estyniad i gamlas Leeds Lerpwl, sy'n arwain cychod culion reit i galon y ddinas a'r Doc Albert. Roedd yr ardal dan ei sang, efo ymwelwyr o dros y byd (o'r hyn a glywais) yn mwynhau'r tywydd braf, ond welais i ddim yr un cwch cul yn anffodus! A dweud y gwir ni faswn i wedi gwybod yr ardal, onibai am yr adeiladau crand cyfarwydd sy'n goruchafu'r sefyllfa sef y 'three graces' (Yr Adeilad Liver', yr adeilad Cunard, a'r Adeilad Porthladd Lerpwl), mor syfrdanol yw'r newidiadau. Efo amgeuddfa newydd yn cael ei adeiladu drws nesa, mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i'r hen ddinas frwnt dwi'n cofio o'r saithdegau ar wythdegau. Ewch draw os gewch chi gyfle, mae'n werth ei gweld!



Un o'r lociau newydd sy'n arwain cychod trwy'r cyfundrefn o ddociau tuag at y Pier Head

3 comments:

Linda said...

Diolch am y disgrifiad a'r lluniau Neil . Byddwn yn dod draw i Lerpwl ym mis Gorffennaf ...taith diwrnod o Ogledd Cymru i weld y ddinas, a chyngerdd Rhydian gyda'r nos. Yn edrych ymlaen i weld y newidiadau yn fawr iawn ....a gobeithio am dywydd braf hefyd !

neil wyn said...

Mwynhewch yr ymweliad, falch roedd y disgrifiad o ddidordeb!

Corndolly said...

Rôn i'n falch o weld dy luniau hefyd. Fedra i ddim dweud am heddiw wrth gwrs, ond yn y gorffennol, faswn i ddim wedi teithio i Lerpwl efo ein cwch camlas achos nad oedd gan yr ardal enw da iawn, ond dim cyn ddrwg â'r dinas ar ben arall y camlas, sef Leeds. Ond os ydw i'n cofio'n iawn, cafodd y camlas ei gau am dipyn. Byddai'n grêt i weld cychod ar y camlas 'na unwaith eto.