26.7.09

Ail-cipolwg ar wefan Golwg....

Dwi wedi bod yn ail-ymweled â gwefan Golwg360 bob hyn a hyn ers i'r lansiad anghofiadwy/cofiadwy cwpl o fisoedd yn ôl, ond ges i fy siomi ar yr ochr orau wrth dychweled tua pythefnos yn ôl. Roedd golwg y wefan wedi ei trawsnewid yn gyfan gwbl, efo'r hen trefn (dibwynt yn fy marn i) o gael dewis pa un adrannau oeddech chi isio gweld ar y tudalen 'hafan', faint o straeon i gael mewn pob adran ac ati, wedi ei diflannu'n llwyr. Yn ei lle welais dudalen lliwgar, trefnus, cytbwys a mentra i ddweud denniadol, o fy mlaen. Mae'r tudalennau sy'n dy ddisgwyl ar ôl clicio un o'r dolennau'r straeon yn darllenadwy syml ond effeithiol. Mae pob dim yn ymddangos yn proffesional ac yn haeddianol o'r logo's sy'n ar waelod y tudelannau megis 'Cyngor Llyfrau Cymru', sy'n cyfeirio at yr holl arian cyhoeddus sydd wedi ei gwario. Tydi hi ddim yn perffaith o bell ffordd, mae rhai o'r pethau da am y gwefan wreiddiol (Lle Pawb er enghraifft) wedi diflannu, ond mae'n 'gwaith mewn 'progress' sy'n edrych yn addawol.

1 comment:

Corndolly said...

Diolch am fy atgoffa i ! Rôn i wedi anghofio am y wefan yn llwyr. Mae'n amlwg rŵan nad oedd y wefan yn cael effaith mawr arnaf pe gallwn i anghofio amdani fel hyn. Rhaid i mi fynd i'w ymweld â hi unwaith eto.