18.7.09

Haf llawn Barn....

Mi laniodd pennod diweddara cylchgrawn Barn ar lawr pren y cyntedd y bore 'ma, efo clec addawol o swnllyd. Ges i ddim fy siomi wrth weld y pecyn lliwgar wrth fy nhraed, a dadbaciais cynwhysion y cwdyn plastic mewn eiliadau, er mwyn bodio trwyddi yn fras, cyn dychweled i'r darnau wnath tynnu fy sylw'n syth. A dweud y gwir dwi heb orffen y pennod diwetha (diffyg amser yn hytrach na diffyg diddordeb), ond mae 'swmpusrwydd' (oes 'na ffasiwn gair..?) y pennod yma yn addo 'haf llawn' amrywiaeth o erthyglau diddorol, difyr a difrifol... da iawn tîm Barn.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Anaml iawn fydda i wedi gorffen rhifyn diwetha Barn erbyn daw yr un diweddara allan chwaith - mae lot o ddarllen ynddo fo a dyna pam dw 'in ei fwynhau cymaint.

Mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa yn lawnsio rhifyn 'prototeip' o glychgrawn o'r new 'Sylw' yn y dyddiau nesaf. Os bydd yr ymateb yn ffafriol, byddant wedyn yn cystadlu gyda Barn am grant blynyddol gan y Cyngor Llyfrau.

neil wyn said...
This comment has been removed by the author.