25.7.09

i-bae

Dwi wrthi ar hyn o bryd yn gwerthu ambell i beth ar wefan arwerthiant 'ebay' ar ran y teulu. Hynny yw cyn pethau fy nhad yng nghyffraith diweddar, megus eu trenau Hornby, camerau digidol ac ati. Roedd o'n casglwr brwd o geir 'diecast' hefyd, sydd ddim ar y gyfan efo fawr o werth, ond mi fydd 'na ambell i un brin yn eu mysg ac o ddidordeb i gasglwyr eraill falle. Ymhlith y stwff 'Hornby' mae un beiriant stêm wedi mynd i Awstralia ac un arall i Awstria, sy'n ryfedd o beth tydi! Mi fasai Gordon wedi ei syfrdanu gweld ei bethau'n cael eu cludo i 'bedwar ban y byd', ond mi fasai fo wedi bod wrth ei fodd hefyd, ac efo'r ffasiwn technoleg sy'n ein caniatau i'w wneud.

Wedi dweud hynny, dwi'n dechrau diflasu efo'r holl ffwdan dros fy nghyfrifiadur (er mae'n ddigon syml) er mwyn gosod pob dim ar y wefan, yn ymateb i gwestiynau'r darpar prynwyr a'r gwaith P&Ph. Efo tua cant o geir i wneud mae'r nofelti wedi treulio ffwrdd rhywfaint, ac mae 'na siawns yn y pendraw mi fydd y rhan mwyaf ohonynt ar eu ffordd i ryw siop 'cashconverters' neu gilydd... Gawn ni weld, mae bywyd yn rhy fyr falle!

2 comments:

Corndolly said...

Mae fy ngŵr yn hoff iawn o ddefnyddio E-Bay, ond prynwr ydy o. Fel dywedaist ti, mae 'na lawer o drafferth i werthu pethau arno. Pob lwc efo dy werthiannau.

Roedd fy mab yn gwerthu llawer o bethau ar E-bay yn y gorffennol, pan oedd o 'allan o waith' ond rŵan gan bod 'na brinder ar ei amser, does ganddo fo ddim llawer o ddiddordeb ynddo.

neil wyn said...

Dwi newydd ymateb i 'gwestiwn' rhywun (neu ddylswn i ddweud 'cwyn'!) am y pris P&Ph dwi'n gofyn mewn hysbyseb ebay (pris hollol rhesymol yw hi hefyd), sydd wedi fy ngwylltio i braidd. Teimlais i fel dweud 'Os ti ddim yn licio'r pris... Dos i grafu!' ond wnes i ddim wrth cwrs, wnes i gyfiawnhau fy mris yn gwrtais iawn tra meddwl y peth arall!!