2.8.09
Crefydd, Canu a Chymreictod....
Gwyliais ychydig o ddarllediad S4C o Gymanfa Ganu Eisteddfod y Bala heno. Dwi ddim yn person eithriadol o grefyddol rhaid dweud, ond temlais gwefr tra wrando ar yr egni a ddoth (hyd yn oed dros tonnau'r awyr) o berfeddion y pabell mawr pinc. Gallwn dychmygu hyd yn oed y daear o dan draed yn crynu wrth i'r côr a cherddorfa ymuno âg ymdrechion y cyhoedd i godi'r to. Wrth i'r camerau busnesu o gwmpas y cynulleidfa, mi welsom ni ambell i wyneb llonydd, fel petasen nhw wedi eu rhewi gan pŵer y sŵn. Mae'n debyg pobl heb ddigon o hyder yn eu canu neu eu Cymraeg oedden nhw, neu rai oedd wedi mynychu dim ond er mwyn profi awyrgylch un o'r hen draddodiadau Cymreig, lle mae crefydd, canu a Chymreictod yn dal i wrthdaro i greu sŵn unigryw sy'n teimlo fel petai'n dod o ryw 'capsiwl-amser'...
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Ydy hi'n bosibl roedden nhw wedi bod i eglwys unwaith ar dydd Sul a wedi teimlo ei fod e digon
Postiad da. Cytuno i'r carn!
Falle'n wir James, pwynt digon teg!
Digwydd bod mi glywais arweinydd y gymanfa ganu yn canmol dawn canu'r cynulleidfa ar y radio heddiw.
Post a Comment