Gall mynd i ffwrdd teimlo fel talcen galed weithiau. Dyni wedi cael ein 'rhaglennu' rhywsut i deimlo dyma'r hyn y dylsen ni wneud yn ystod cyfnodau penodedig y flwyddyn, gwyliau banc, pythefnos dros yr haf ac ati.
Ond mae newid yn peth da 'tydy? Gallai bod yn siawns i werthfawrogi'r hyn sydd gynnoch chi yn barod, neu'n gyfle i ystyried y pethau mi fasai rhywun yn hoffi eu newid, neu gyfle jysd mwynhau golygfa newydd (yn llythrennol ac yn drosiadol!).
A dyna oedd cyflwr fy meddwl, wrth iddyn ni fynd ati i bacio'r holl pethau sydd i weld i fod yn rhan anhepgor gwyliau yr unfed canrif ar ugain: ffonau symudol a'u 'llenwyr', camerau digidol a'u llenwyr, gluniadur (jysd rhag ofn..) stwff y ci, stwff tywydd gwlyb, stwff tywydd poeth, stwff i'r traeth, stwff mynydda, digon o fwyd i oroesi gaeaf niwcliar, diolch byth do'n i ddim yn gwersylla...
Roedd gen i bentwr o bethau i wneud yn y gwaith (er mwyn dal i fyny efo'r amser a'r pres a gollais wrth symud gweithdy) a chwsmeriaid amyneddgar ar fy meddwl, wrth i mi drio canolbwyntio ar gasglu'r stwff gwyliau a newid gêr fy meddwl.
Diolch byth doedden ni ddim ar brys i adael (dim ond taith o awr a hanner yw hi o fan'ma), felly penderfynom ni fynd 'rhywbryd' yn ystod y prynhawn, er mwyn pigo i Benbedw yn y bore i brynu sgidiau cerdded a chôt sy'n dal dwr i Miriam (mae hi'n tyfu di-baid ar hyn o bryd).
O'r diwedd cyrraedom ni'r bwthyn clyd yng Nghwm y Glo tua hanner wedi chwech (rhywle dyn ni wedi bod o'r blaen) ac ymgartrefom ni'n syth, wedi llusgo ein bagiau o'r maes parcio ar waelod yr allt serth. Does dim modd parcio o fewn canllath o'r bwthyn heb flocio'r lôn yn llwyr, sy'n gwneud pethau'n annodd i breswylwyr heddiw yn nyddiau'r car (ond sy'n cadw rhywun yn andros o heuni!). Wedi gosod tân (do, roedd rhaid cynnau tân canol awst), a chynllunio taith cerdded ar gyfer y bore, mi gawsom ni dro sydyn i fyny'r lôn a'r llwybr cyhoeddus tu hwnt, a mewn dim ro'n ni'n edrych ar mawredd mynyddoedd Eryri a'r tlws yn ei choron Yr Wyddfa...
3 comments:
Mae'n wych i glywed am wyliau eraill, ond dw i'n hiraethu am y mynyddoedd ar ôl darllen dy flog.
Mae dy frawddeg ola'n fy atgoffa i o fy naith! Dw i isio dod yn ôl i Lanber!!
Post a Comment