17.8.09

Dihangfa....(rhan 2)




Tydi pobl ddim yn teithio i Gymru er mwyn ail-llewni lliw haul nage? Mae'r tirlun ei hun yn sicrhau hinsawdd sy'n llai disgwyliadwy, ac yng gnhyffuniau Eryri mae'r effaith hon yn amlycach, a gei di brofi pedwar tymor mewn un ddiwrnod (fel a ganodd 'Crowded House' ers talwm). Roedden ni'n penderfynol o gyrraedd copa'r Wyddfa yn ystod yr wythnos felly wnes i gadw llygad ar ragolygon y tywydd efo Dereck Brockway (shmae!)ar BBC Wales pob nos. Yn ôl 'Degsy', mi fasai'r dydd mawrth yn well o lawer, ar ôl nifer o ddyddiau cawodlyd, a chwarae teg iddo fo, roedd o'n llygaid ei le, a deffrom ni i awyr las heb gwml uwch ein pennau.



Wrth chwilio am rywle i barcio yn Llanberis mi basiom ni rhes hir o ddarpar teithwyr Rheilffordd Yr Wyddfa yn ymlwybro fel neidr o amgylch yr orsaf, rhagolwg arall o dywydd braf. Wedi diweddu ym maes parcio'r Amgueddfa Lechi (yr unig le ro'n ni'n gallu ffindio efo llefydd gwag), mi ddechreuom ni ein 'ymosodiad' ar yr allt serth sy'n 'croesawu' heidiau o gerddwyr pob dydd. O fewn hanner milltir o'r dechrau, mae pawb yn cael eu temptio i orffwys ar feinciau gwahoddgar ystafelloedd te unigryw 'Pen y Ceunant'. Pwy a wyr, ond mae'n digon posib bod ambell i daith gor-uchelgeisiol wedi dod i ben yn fan hyn, wrth i fotel sydyn o gwrw Bragdy'r Miws Piws troi yn ddau. Ond nid iddyn ni, mi wthiom ni ymlaen nes bod y tarmac yn ildio i lôn cerrig, yn addas i gerddwyr, anifeiliaid ac ambell i feic 'quad' yn unig.
Mi ddoth golwg y caffi hanner ffordd i'n cysuro jysd mewn pryd (duwcs, mae hwn yn mynydd llawn cyfleusterau!) gyda ein coesau yn dechra teimlo'r dringo o ddifri. Ar ôl diodydd a ddarnau o gacen blasus o grombil y cwt cerrig croesawgar, mi gariom ni ymlaen wrth i'r llwybyr sythu ac yn troi yn res o grisiau creigiog bron. Mae hon yn arwydd o'r ymdrechion parhaol i'w achub rhag erydu gormod am wn i, a welsom ni lond cwdyn ar ôl cwdyn o gerrig mawr yn barod i'r cymal nesaf, son am dalcen galed!
Wrth i'r llwybyr ein arwain o dan bont rheilffordd, mi wynebom ni gwyntoedd andros o gryf a dibyn digon mawr i'ch dychryn! Ai dyma trobwynt y taith i sawl cerddwr 'hamddenol'? Hyd yn oed ar ddiwrnod braf canol haf, mae'n posib teimlo nerth a pheryg y mynyddoedd wrth i'r tywydd troi dim ond ychydig. Mi chwipiodd a chwyrliodd y cymylau dros y crib, mi welsom ni dim ond ambell i gip o Grib Goch, Crib y Ddysgl, cyn o'r diwedd sbio lloches Hafod Eryri trwy niwl y cymylau a'r heidiau o ymwelwyr buddugolaethus, boed teithwyr trên neu teithwyr ar droed. Mae'n teimlad braf bod ar ben mynydd.

9 comments:

Emma Reese said...

Llongyfarchiadau ar dy gamp, Neil! Dw i'n llawn edmygedd! Pen y Ceunant weles i wedi'r cwbl. Wnes i gerdded yn ôl wedyn. Medra i ail-fyw y dref wrth ddarllen dy ddisgrifiad.

Dw i wedi sylwi hefyd bod y tywydd yno'n newid bob awr, ac roedd rhagolygon y tywydd tu allan i siop Joe Brown yn dda i ddim.

neil wyn said...

Diolch Emma, ti'n iawn am y tywydd, mae'n posib colli diwrnod braf trwy cymryd gormod o sylw o 'bobl y tywydd', yn enwedig mewn llefydd fel Eryri sydd gyda hinsawdd 'micro'. Y peth pwysicaf yw i ddisgwyl popeth!

JonSais said...

Neil
Mae'na sawl un arall yn lloegr sy'n blogio, gwelir http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/
Pob hwyl
Jonathan Simcock

Linda said...

Da iawn ti Neil ! Falch o ddarllen dy fod ti wedi cyrraedd y Copa , ac wedi dod i lawr yn saff i gofnodi dy hanes. 'Roedd fy ngwr a finna wedi bwriadu mynd i fyny ar y trên [ ddim mor anturus a ti ] ond mi ddaru'r tywydd roi stop ar hynny .

neil wyn said...

Dioch Linda, Mae'r tren yn edrych fel lot o hwyl, ges i fyn nhemptio rhaid i mi ddweud!

Wna i ymweled â'r blog Derby nes ymlaen Jonathon, diolch am y ddolen.

People's Front of Judea said...

Llongyfarchiadau Neil!
Gwaith arderrchog.
Wnes i beiciau efo Mike yn Gorffenaf-Aberdaron-Bangor, wedyn tren i Gaer-wedyn Caer -adre.
Tywydd braf iawn.
Tua Medref gobeithio,
PFJ

People's Front of Judea said...

Mae'n ddwrg gen i !
'Medi'.
Cymraeg ofnadwy....

neil wyn said...

Cymraeg da Nigel!

Wnes i gwrdd â Meic yn West Kirby a wnaeth o ddweud am eich taith beicio, gwych (brilliant)!

Gyda llaw (b.t.w.)

Ar y ffordd lawr Yr Wyddfa, wnes i ddigwydd weld (happened to see) Rhys Mwyn (o'r grwp 'Anrhefn' ers talwm-ages ago, ac sy'n ysgrifennu colofn (column)yn y Daily Post Cymraeg y dyddiau yma, yn ogystal ag (as well as) hyrwyddo (promoting) cerddorion). Yn ystod (during) y sgwrs, wnes i son am ddysgu dosbarth nos ym Mhenbedw, ac am y ffaith mae cerddor yn y dosbarth, 'Pwy?' meddai (said) Rhys, Canwr 'hanner dyn hanner bisced' dwedais i (I said), 'Nigel, Nigel Blackwell?' meddai Rhys, 'Ie', dwedais i, 'dyna fo'. 'Wow!' dwedodd Rhys.

Mae o'n hoffi mynydda hefyd, felly gathon ni (we had) sgwrs braf am fynyddoedd Eryri cyn ddweud hwyl fawr.

Mae'n wlad bach 'tydi! ac i brofi'r pwynt, nes ymlaen (later on) yn yr wythnos ges i fy syrfio ( I got served) mewn siop ger y traeth yn Tudweiliog gan ddynes sy'n cyflwyno (presents) y sioe 'Ffermio' ar S4C!

People's Front of Judea said...

'Hanner Dyn Hanner Bisced'-(so that's how it's spelt!)
Out of tune shouting backed by some basic chords really. Nothing special but I get by I suppose....
Dw i'n cofio Anrhefn (Disorder?)-grwp da iawn. Ffrindiau o The Fflaps -maen nhw'n dod o fangor dw i'n meddwl.
Dw i'n mynd i bryniau Shropshire 'fory, dw i ddim wedi bod yna erioed (Stiperstones etc).
Cyffrous gobeithio.
(may even get some musical inspiration-I could certainly do with some!)
Dw i'n mynd i edrych ar y teledu am chwarter wedi un ar ddeg (Cwp Carling). TRFC allan o gwrs!
Dym byd newidiadau.....