20.3.10

Colled....

Teimlais ryw siomedigaeth heddiw wrth ddarganfod bod un o'r blogiau Cymraeg hynaf gan ddysgwr wedi cael ei dileu oddi wrth y rhyngrwyd. Mae 'na sawl blog sydd heb eu cyffwrdd am fisoedd lawer mae'n siwr (mae gen i un neu ddau heb ei ychwanegu atynt am flynyddoedd!) ond mae dileu blog yn ei gyfanrwydd yn cymryd cryn ystyriaeth, ac yn weithrad mwy arwyddocaol na jysd tynnu ambell i bost.

Felly meddwl ro'n i am yr hyn dyni fel dysgwyr yn buddsoddi yn yr iaith 'ma? Mae 'na rai fel finnau sydd gyda dras Cymreig, ac sydd eisiau ail-cysylltu efo ochr yna ein bywydau, dewis digon syml a chyffredin am wn i. Mae 'na eraill sy'n byw yng Nghymru bellach, neu sydd wedi byw yna erioed, ac sydd eisiau darganfod mwy am eu gwlad eu hun o bosib, dewis digon gall dwedai lawer. Wedyn mae 'na rai sydd wedi newid eu bywydau yn gyfan gwbl er mwyn dysgu'r iaith 'ma, tra wneud aberthiadau sylweddol ar hyd y ffordd, yn arrianol a phersonol. Mae buddsoddiad y rhai yma yn bell o 'mhrofiad i, ac o ddealltwriaeth sawl sy'n eu hadnabod mae'n siwr - er mawr yw fy edmygedd tuag atynt.

Y mwy y mae rhywun yn buddsoddi, y mwy sydd gennynt i golli (nag i ennill) wrth rheswm. Mae'r ffaith bod gan rywun y dewrder i newid eu bywyd er mwyn dilyn trywydd penodol, yn dweud mwy amdanynt nag am yr hyn mae nhw wedi dewis dilyn - o bosib, onid ydy hap a damwain sy'n dod â ni'n i bethau ym mywyd?

O'r hyn a welaf, mae ambell i un o'r 'buddsoddwyr mawr' wedi llwyddo dysgu'r iaith yn eithriadol o dda, tra ychwanegu at amrywiaeth allbwn y wasg Cymraeg. Ond byd bach a chul ar brydiau yw'r byd Cymraeg, er mor bell mae'r Cymry wedi crwydro (falle oherwydd y culni?). A dyna pam buddiol iawn yw cyfraniad y rhai sy'n dod o bell i'r Gymraeg dwedwn i, pa bynnag ffordd sydd wedi dod â nhw yma. Y 'byd bach' clud 'ma yw'r peth sy'n dennu rhai ohoni at yr iaith falle.. darganfod cymuned sydd bellach ar goll yn y byd 24awr cyfoes - dwn i ddim?

Ond gweld eu heisiau nhw y bydd y gweddill ohonynt, wrth weld diflanniad un o'n 'cymuned' ni - beth bynnag yw gwir ystyr y colled 'ma yn y tymor hir..

2 comments:

Chris Cope said...

Des i yma i fod yn aelod o'r gymuned fach 'na. Ond ches i ddim croeso. Yr hyn a ges i, oedd unigrwydd ac arwahanrwydd. Ces i fy nghaethiwo i mewn i gategorïau (Americanwr, dysgwr, ayyb) gyda'u hystrydebau di-ben-draw. Prin iawn yw'r rheiny sy'n fodlon delio â fi fel person tri-dimensiwn, fel rhywun sy'n aelod y "gymuned" mytholegol 'ma -- yn hytrach na gwawdlun. Pan sylweddolais yr oeddwn yn cydymffurfio â'r ystrydebau hyn, penderfynais ddileu'r blog Cymraeg.

Hefyd, gwnes i hynny yn rhannol oherwydd nad oedd gennyf awydd cyhoeddi fy anhapusrwydd, siom a chwerwedd tuag at y "gymuned" Gymraeg.

Yr hyn sy'n brifo a blino a digio yw'r nifer sydd wedi gadael negeseuon (yn anhysbys, wrth gwrs) negyddol a sbeitlyd tuag ataf ar fy mlog Saesneg yn ddiweddar, yn dweud wrthyf nad ydw i'n ddim, ac y dylwn adael Cymru am byth, ayyb. Ches i ddim groeso yng Nghymru ond pan ydw i'n penderfynu camu i ffwrdd, dwi'n cael fy ngheryddu?!

neil wyn said...

O dan yr amgylchiadau dwi'n deall dy benderfyniad i ddileu'r blog, ond gweld ei eisiau beth bynnag.

Dwi ddim yn ddeall y fath o bobl sy'n methu rhoi croeso gwresog i rywun sydd wedi trafferthu dod yma i ddysgu'r iaith ac i fod yn rhan o gymuned!! Dweud a gwir dwi wedi cael ambell i brofiad gan Gymru Gymraeg sydd wedi fy ngwylltio - eu hagwedd at ddysgwyr weithiau - ond yn gyffredinol croeso ges i, er dwi'n dal i deimlo ar wahan ohonynt.

O ran y llyfrgŵn sy'n gadael negeseuon anhysbys sbeitlyd, cywilydd arnynt ma eu diffyg ceilliau.. twll eu tinau.. Pe tasen nhw eisiau dweud pethau cas, dylen nhw cael y bôls i roi eu/ei (h)enw/au lawr...cachgi/gŵn...dileua'r ffycyrs!!