6.3.10

Cwcw....

Dani'n cael ein bombardio ar hyn o bryd gan S4C gyda hysbysebion a threilars ar ran y ddrama CWCW, gyda'r rhan cyntaf ohoni'n cael ei ddangos nos yfory. Mae'n annodd i mi ffeindio'r amser weithiau i eistedd lawr a gwylio drama mewn unrhyw iaith, ond efo'r holl gwobrau a chlod mae Cwcw wedi ei derbyn hyd yn hyn mae'n rhaid i mi wneud yr ymdrech. Dwn i ddim os bydd yn cael ei darlledu efo isdeitlau ar y sgrîn, mae'n bosib gan ei bod hi wedi ei ddangos mewn gwyliau ffilm yn barod. Dwi ddim yn sicr sut i osod yr isdeitlau 'teletext' ar y sgrîn y dyddiau 'ma ers i'r newid i ddigidol, er mwyn i weddill y teulu ei mwynhau.

5 comments:

Corndolly said...

Diolch am ddweud Neil. Wna i fynd i osod y recorder rŵan ond fel ti, does 'na ddim llawer o amser gennyf weld dramâu ac ati. Rhaid i mi ddal i fynd efo cyfres newydd Iolo Williams - Tiroedd Cymru (?) Diolch byth am y 'series link' ar Sky.

neil wyn said...

Mae gen i gyfres Tiroedd Cymru ar y peiriant recordio hefyd, er dim ond rhai hanner ohonynt ydwi wedi llwyddo i wylio hyd yn hyn. Wedi dweud hynny mi faswn i'n hapus ail-wylio'r rheina, mor arbennig yw'r cyfres :)

Corndolly said...

Dw i wedi gwasgu'r botwm 'cadw' ar y cyfres. Dw i'n bwriadu ail-weld y rhaglenni. Dw i'n gallu deall Iolo Williams yn iawn gan ei fod o'n siarad mor glir.

Rhaid i mi ddweud nad ydw i wedi clywed dim byd am 'Cwcw' felly fydda i ddim wedi ffurfio barn ymlaen llaw.

Corndolly said...

Hiya Neil, gaf i ofyn a yw'r cyfres 'Cwcw' yn iawn? Dw i wedi recordio ddwy rhaglen ar hyd yn hyn, heb gael amser i'w gweld nhw, felly, cyn i mi eistedd o flaen y teledu, penderfynais i ofyn i ti am y rhaglen.

neil wyn said...

Dim ond wedi gwylio'r rhan cyntaf ydwi hyd yn hyn Ro, er dim ond diffyg amser sydd wedi fy rhwystro rhag cario ymlaen efo'r ail darn.

Nad ydy o'n ysgafn, ond gwerth ei gwylio yn bendant dwedwn i.