Dwi newydd gwylio rhaglen celfyddydau newydd S4C o'r enw Pethe, a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth a Nia Roberts. Wnes i eitha fwynhau o a dweud y gwir, ac am fod hi'n 'ddiwrnod rhoi llyfr fel anrheg' (neu rhywbeth felly), canolbwyntiodd y rhaglen ar lyfrau, gan cynnwys nofel newydd sydd wedi derbyn cryn sylw'r wythnos yma sef 'Caersaint', un wnes i ddigwydd bod wedi archebu gan 'Gwales' yn gynharach yn y dydd. Ar ôl y rhaglen mi es i ar y wefan er mwyn ffeindio allan am y clwb llyfrau sy'n cysylltiedig â'r rhaglen. Mi fydda i'n cael cip ar y wefan pob hyn a hyn er mwyn gweld os mae 'na ragor o ddatblygiadau, neu gynnigion ar ran lyfrau...
2 comments:
Dechreues i weld y rhaglen heddiw ond aeth rhywbeth o'i le a roedd raid rhoi'r gorau iddi. Edrycha i ymlaen at glywed dy adolygiad ar y llyfr dan sylw.
Wedi mwynhau darllen y blog. Newydd fod yn aros yn ardal Cilgwri hefo criw o Gymry wythnos dwetha - yn agos at Port Sunlight beth bynnag. Falch dy fod yn mwynhau Pethe ac wedi bod ar y wefan. Dwi'n trio sgwennu blog wythnosol iddo - Blog Pethe (enw dyfeisgar!) http://s4c.co.uk/pethe/blog-pethe/
Byddwn yn falch o wbod be ti'n feddwl o'r blog. Dal ati gyda hwn - gret.
Post a Comment