17.3.10

Week in Wythnos allan....

Clywais adroddiadau'r wythnos yma am raglen 'Week in Week out', oedd yn trafod sylwadau Christie Davies ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Yn ôl Mr Davies, creu 'Gaeltacht' Cymraeg - rhwle yn un o'r broydd Cymraeg sydd ar ôl - yw'r ffordd ymlaen, yn hytrach na chario ymlaen gyda pholisi presennol y cynulliad sef 'Cymru Dwyieithog'. Heddiw roedd ei sylwadau yn destun trafod ar raglen 'Taro'r Post', a ches i fy gorfodi i ymateb i'r hyn o'n i'n ei glywed.

Dwedais yn fy e-bost at y rhaglen does dim tystiolaeth i ddangos bod y 'gaeltacht' wedi bod yn lwyddiant ar ran gwarchod y Gwyddeleg. Yn hytrach mae 'na beryg i gynllun o'r fath yn troi pa le bynnag a ddewiswyd yn fath o 'amgueddfa iaith', ac maes o law yn 'fedd iaith' o bosib. Mewn gwirionedd does fawr o siawns o syniad o'r fath erioed yn gweld golau'r dydd beth bynnag , felly be' oedd y pwynt codi nyth cacwn fel hyn? Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod yr iaith o dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen, am bentwr o resymau, ond er hynny mae 'na fwy o hunanhyder yng Nghymru ar ôl degawd a mwy o'r Cynulliad, a thrwy hynny (falle) mae 'na fwy o siawns i'r genedlaeth nesa gweld yr iaith fel rhywbeth gwerth ei chadw a defnyddio, ac yn perthnasol i Gymru gyfan i ryw radd

Wrth cwrs mae'r cadarnleoedd Cymraeg yn ofnadwy o bwysig i'r iaith, ond dwi ddim yn credu bod y Cynulliad wedi gwneud llawer i rwystro sawl pentre yn troi yn 'pentre penwythnos' llawn jetsgîs ac ail-cartrefi! Heb polisiau i hybu economîs y cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith, does dim fawr o obaith iddynt parhau fel cymunedau gweithredol o gwbl, heb son am gymunedau Cymraeg...

3 comments:

JonSais said...

Cytuno cant y cant. Dyw hi ddim yn bosib gorfodi pobl i siarad yr hen iaith, ond mae rhagor i'w wneud ynglŷn ag annog pobl i siarad yr iaith bob dydd ac yn y gweithle, cymuned ayyb.
Pob hwyl
JS www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com

Rhys Wynne said...

Cytuno, ac mae'n ymddangos nad o yw'r gwr bonheddig ar Week In Week Out ddim yn un o garedigion y iaith o bell ffordd. Ymchwul campus gan y BBC unwaith eto!

neil wyn said...

Mae gan y boi 'ma 'pedigree' o safon dwi'n gweld! Mae'n well i ni i gyd ochr yma'r ffin rhoi sglein ar ein Saesneg rhag ofn i ni gael ein hela o'r wlad am beidio siarad Saesneg 'Ardderchog' (rhywbeth mae mwy o Sweden a'r Iseldiroedd yn wneud yn barod mae'n siwr). Sut gafodd eithriadwr o du allan i'r wlad cymaint o sylw yn y Times a gan y BBC? Oedd 'na ymatebion i'w erthyglion yn y Times gan rhywun efo safbwynt gwahanol tybed?