2.5.10

Gwlad y Mór

Dyma'r darn a sgwennais ar ran cystadleuaeth 'Gwobr Dafydd ap Llywelyn' eleni, sy'n rhan o Eisteddfod y Dysgwyr y Gogledd Dwyrain.  Mae rhaid i chi sgwennu tua 500 o eiriau ar unrhyw agwedd o hanes yr ardal.  Gafodd y cystadleuaeth ei sefydlu mewn rhan i godi proffeil ymgyrch i godi colofn yn Sir y Fflint i'r unig tywysog Cymreig i gael ei eni yna, rhywle ger Bagillt os cofiaf yn iawn.

Gwlad y Mór

Wrth groesi’r ffin ar un o lonydd di-ri yr A550, mae’n annodd dychmygu profiad teithiwr yn dilyn yr un drywydd cyn i ’Wlad y Mor’ codi o leithder y Dyfrdwy.


Buodd groesfan yno ers canrifoedd lawer. Fel rhyd isaf y Dyfrdwy, roedd rhyd Shotwick yn ffordd pwysig rhwng Gymru a Lloegr, a phasiodd ‘Saltesway’ trwyddo ers yr oesoedd tywyll, yn dod â halen o Swydd Caer i Gymru. Er gwaethaf y peryg o groesi aber lanwol, cynnigodd lwybr llygad, a modd osgoi tollau a lladron pen ffordd lonydd coediog. Defnyddwyd y rhyd sawl tro fel llwybr milwrol, ac yn y 11C cododd Castell Shotwick yn ymyl y rhyd gan Iarll Caer, er mwyn gwarchod ei diroedd rhag ymosodiadau o Gymru. Arweinodd Harri II a Harri III byddinoedd dros y rhyd yn ystod eu hymgyrchoedd yn erbyn Cymru, ac yn 1277 ymwelodd Edward I â’r castell, cyn arwain byddin enfawr dros yr aber ar ddechrau ei waith o godi ‘cylch haearn’ o amgylch Cymru, a hynny ar ben arall y croesfan yn y Fflint.

Er afon o bwys morwrol buodd y Dyfrdwy ers dyddiau’r Rhufeiniaid, erbyn y 17C roedd lleidio difrifol yn rhwystro sawl llong rhag gyrraedd porthladd Caer, ac yn bygythio ffyniant y ddinas. Wedi degawdau o drafodaethau, a geiau eraill yr aber yn fynnu ar draul Caer, penderfynodd awdurdodau’r ddinas torri camlas er mwyn gwella mynediad i’r porthladd.

Agorwyd y ’New Cut’ o Gei Connah i Saltney yn 1737, gan symud cwrs y Dyfrdwy i ddilyn glannau Sir y Fflint. Yn ogystal â hwyluso’r daith i Gaer, creuwyd y camlesu cyfle i sychu rhagor o’r gorsydd, proses oedd wedi dechrau cyn i’r camlesu mae‘n debyg (cofnodwyd yr enw ’Sealand’ cyn i’r gwaith camlesu). Maes o law fe fyddai’r filoedd o erwau newydd yn dod â thyfiant enfawr i’r ardal, er methiant oedd yr ymdrechion i achub porthladd Caer yn y tymor hir, wrth i’r siltio parhau, a’r Dyfrdwy’n ildio i lewyrch y Mersi.

Gyda draenio’r gorsydd a’r camlesu daeth pennod newydd i’r aber gyda ffyrdd a gwasanaethau ferri, gan cynnwys Y Fferi Isaf (Queensferry), yr un bwysigaf. Yn 1890 pontwyd y Dyfrdwy gerllaw gan reilffordd, a disodlwyd y gwasanaeth fferi gan bont ffordd yn 1897. Roedd y rheilffyrdd yn sbardun i don newydd o ddatblygiadau ar y tir adenilledig. Yn 1896 agorodd John Summers gwaith dur ger y Dyfrdwy, wrth fanteisio ar dir rhad yn ymyl yr afon. Yn ei hanterth gweithiodd ddros 13,000 yna, er daeth y gwaith cynhyrchu dur i ben yn 1980 gyda cholled enfawr o swyddi.

Heddiw, wrth wibio heibio i’r ddraig enfawr wrth ymyl y ‘traffordd’ a’r ffatrioedd a ddenwyd i lenwi bwlch ‘Summers‘, mae’n werth cofio, digon hawdd gallai’r darn rhyfedd hwn o Gymru wedi troi yn rhan o Loegr. Yn ôl un hanes er mwyn cadw beddau llaith morwyr o Gymru - a gollodd yn yr afon - yng Nghymru, fe arhosodd y ffin yn ei unfan. Mae hanes diweddarach yn son am ffermwr o Wlad y Mor, a lwyddodd i wrthsefyll ymdrechion yr Arolwg Ordanans i ‘dacluso’ y ffin trwy ei symud i ddilyn y camlas, ac hynny ar y cyd gyda’r hên Sîr Clwyd. Pa hanes bynnag sy’n wir, darn pwysig o Sîr y Fflint yw’r tir a gipiodd o’r môr erbyn hyn.

2 comments:

Huw said...

Neis gweld eich bod wedi anfon y darn yma ar hanes Sir y Fflint i gystadleuaeth.

Un sylw hoffwn roi, er tydw i ddim yn ceisio bod yn hy o gwbwl, yw y defnydd o'r fannod o flaen enw afon. Nid oes angen rhoi 'y' o flaen enw afon gan ei fod yn proper noun. Fedrwch chi ddim gwneud peth penodol yn fwy penodol. Rhaid meddwl am yr afon fel person - yr wyt yn cerdded dros Huw, nid cerdded dros yr Huw; felly yr ydych yn crosi Dyfrdwy ac nid croesi dros y Dyfrdwy.

Y rheswm dwi'n codi hyn, yw fod nifer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ddim yn sylweddoli'r camgymeriad yma. Arferiad drwg sydd wedi codi trwy cyfieithu o'r Saesneg. E.e. The River Mersey, yn cael ei gyfieithu Yr Afon Mersi/Merswy. Ond eto mae nhw ddim yn gwneud yr un camgymeriad pan yn cychwyn gyda'r Gymraeg. Dyffryn Clwyd, nid Dyffryn y Clwyd; rhywsut mae hwn yn trosi i'r Saesneg, yr ydym yn dweud Vale of Clwyd nid Vale of the Clwyd.

Y ddau eithriad pan yn sôn am enwau afonydd yw Y Fenai, rhwng Gwynedd a Môn ac Yr Iorddonen (River Jordan).

Nid ceisio bod yn nawddoglyd ydw i, ond credaf pan fo iaith yn cychwyn dilyn yr un gystrawen a rheolau ag iaith arall nid oes pwynt ei siarad a'i fod yn cychwyn marw. Nid yw'r Gymraeg yn ffordd o siarad Saesneg gan ddim ond ailosod y geiriau gyda rhai Cymraeg, ond dull o gyfathrebu gyda phersbectif unigryw.

Os oes dysgwyr yn darllen hwn, gobeithio fod yr enghreifftiau yn ddigon eglur i drosglwyddo fy mhwynt. Bosib hefyd bydd dysgwyr yn gweld y persectif unigryw yr ydywf yn sôn amdano o iaith gwahanol, ble mae elfennau natur fel afonydd bron iawn yn gymeriadau/pobol yn eu hunain yn y Gymraeg. Yr iaith yn allwedd i feddylfryd Cymreig sydd wedi ysbrydoli Dafydd ap Gwilym ac eraill i ysgrifennu am fyd natur.

neil wyn said...

Diolch am y sylwadau Huw, rhai adeiladol iawn. Problem cyffredin ymhlith dysgwyr yn anffodus yw'r tueddiad i ddefnyddio gystrawen Saesneg yn y Gymraeg, ond mae'n help pob tro cael deall mwy am unigrwydd yr iaith, a diddorol iawn y pwynt am Ddyffryn Clwyd, diolch eto, Neil