30.4.10

Dim ond un ddewis....

Fedra i ddim dweud fy mod i wedi cynhesu at Gordon Brown,  nag y naill o'i wrthwynebwyr slic neu'r llall a dweud y gwir, yn ystod yr ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol.  Mae 'na debyg o fod rhyw 'ego' afreolus tu mewn i bersanoliaeth unrhywun sy'n ddigon uchelgeisiol i fynd am swydd y prif weinidog, sy'n codi cwestiynau ynglyn á pha mor addas ydyn nhw i wneud y swydd yn y lle gyntaf.   Maen nhw'n pysgod mawr sydd wedi tyfu yn fwy trwy fwyta pysgod eraill.  Gafodd y pysgod newydd yn y pwll, Nick Clegg, amser gweddol rhwydd yn ystod y dadl 'Prif Weinidogol' cyntaf, cyn i bartion y lleill dechrau ei weld fel bygythiad go iawn, a dechrau ar eu gwaith o danseilio ymgyrch arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.   
Mi ddaeth ochr annoddefgar personaliaeth Mr Brown i'r wyneb echddoe, wrth iddo fo cael ei ddal mewn preifat yn galw dynes yn 'bigot', rhywun ei fod o wedi gadael yn holl gytun dim ond eiliadau yn gynt.  Teimlais drosto a dweud y gwir, wrth i'r cyfryngau wneud mór a mynydd o'i sylwadau dauwynebog,  ond siawns fasen ni'n cael clywed lot gwaeth pe tasen ni i gael cyfle i glustfeinio ar sgyrsiau preifat sawl gwleidydd.  Dylsai pethau felly bod wedi cael eu rhyddhau gan 'Sky' yn y lle gyntaf ?... ond wrth cwrs cwmni Rupert Murdoch ydy 'Sky'!   

Ond wrth cwrs mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i bleidleisio drostynt (wel os dyni am fwrw pledlais), ac mi faswn i'n digon hapus gweld senedd grog er mwyn gwneud rhywbeth i dorri'r hen gyfundrefn o lywodraethau gor-bwerus heb ddigon o gefnogaeth.  Dyma gyfle euraidd i ni wneud gwahaniaeth trwy pleidleisio'n tactegol, ond am y tro olaf gobeithio.. 

2 comments:

Linda said...

Helo Neil,
Mae'r etholiad a'r storiau ynghlwm wrtho yn cael cryn dipyn o sylw ar y newyddion yma yng Nghanada hefyd. Ffrindiau i mi yn synu mai dyma'r tro cyntaf i'r wlad gael 'live leadership debate' ar y teledu.

neil wyn said...

Heia Linda, dwn i ddim faint a ddysgon ni o'r 'debates' a dweud y gwir, dim llawer am bolisiau y pleidiau gwahanol i daclo dyled enfawr y gwlad mae'n siwr. Mae'r pendiwlym erbyn hyn yn symud i gyfeiriad y Toriaid yn ol y polau piniwn diweddaraf, ond does dim arwydd ohonynt yn tynnu'n glir eto. Dyddiau ddiddorol i ddod!