Dwi'n paratoi am y dosbarthiadau nos cyntaf o'r flwyddyn 'academaidd' yr wythnos yma, ar ól noson cofrestru brysur nos fercher diwetha.
Dwi'n credu gawn ni ddosbarth flwyddyn tri digon iach o ran niferoedd, gyda thri aelod newydd yn ymuno á'r grwp, a'r rhan mwyaf yn cario ymlaen o flwyddyn dau. Ymhlith y rheiny sy'n ymuno á'r dosbarth yw un sydd eisiau ail wneud blwyddyn tri ar ól colli nifer go lew o'i gwersi gyda David Jones y llynedd. Un arall sydd gan TGAU Cymraeg yn barod! a dyn ifanc sydd wedi bod yn defnyddio saysomethinginwelsh fel modd o ddysgu am rhai naw mis, ac sydd bellach yn eitha rhugl.. Anhygoel! a theyrnged i'r cwrs arbennig yna.
Mae pethau ynglyn á'r dosbarth arall (blwyddyn dau) ychydig yn fwy cymhleth. Mae 'na griw ohonynt sydd eisiau ail wneud blwyddyn un (gan bod nhw wedi colli ambell i wersiam resymau gwahanol). Does gen i (na'r Coleg dwi'n credu) problem efo hyn, ond mae'n wneud i mi deimlo mod i wedi methu rhywsut, trwy beidio gweld bod rhai ohonynt yn stryglo cymaint. Diffyg profiad sy'n cyfrifol am hyn mae'n siwr, hynny a'r ffaith mod i'n rhy awyddus weithiau i symud ymlaen yn rhy gyflym. Dwi wedi dweud wrthynt mi fydd 'na gyfle i newid eu meddyliau yn ystod yr wythnosau gynnar, gan mod i'n sicr y fydden ni'n neud cryn adolygu dros yr wythnosau nesa, yn hytrach na gwthio ymlaen yn rhy sydyn.
2 comments:
Dymuniadau gorau ar y dosbarthiadau. Faint o bobl sy 'na ar hyn o bryd?
Mae 'na rai 14 yn blwyddyn 3, er dim ond 8 yn y blwyddyn 2, ar ól i 6 ohonynt penderfynu ail-wneud blwyddyn 1, gawn ni weld os gaiff rhai ohonynt eu darbwyllo i ddychweled i flwyddyn 2 gan diwtor y dosbarth yna!
Post a Comment