2.10.10

'naw or nefar' am 9 stryd Madryn....

9 Stryd Madryn

O fewn pythefnos, mi fydd Cyngor Lerpwl yn dechrau ar y gwaith o ddymchwel ddeuddeg o 'strydoedd Cymreig' y ddinas, ar ól blynyddoedd o esgeuluso a dadleuon.   Ond ymhlith y tai teras di-ri, ddoi di o hyd i fan geni un o enwogion y ddinas, sef y cyn 'chwilen' (lleiaf dawnus yn ól rhai!) Ringo Starr.   Onibai am y cysylltiadau gyda'r ffab ffór, gallai'r strydoedd di-nod wedi eu dymchwel heb gormod o sylw, wel tu hwnt i'r cymunedau lleol a 'sgowser mabwysiedig' o Gymro Dr. Ben Rees.   Mae'r cyn-weinidog wedi bod wrthi'n ceisio gwarchod treftadaeth Cymreig Lerpwl ers degawdau (y cyn 'Gadeirlan Cymreig' yn Toxteth er enghraifft, sydd bellach yn adfail peryglus), ac wedi cyfrannu erthygl hynod o ddiddorol yng nghylchgrawn 'Barn' y mis yma, yn rhestri ardaloedd o Lerpwl a adeiladwyd gan y Cymry, ac yn rhoi esboniadau i hanes yr enwau. Mi  godwyd y strydoedd Cymreig gan adeiladwyr Cymreig, a llenwyd y rheiny yn aml iawn gan Gymry, a greuodd ardaloedd o'r ddinas - Anfield a Bootle er enghraifft - oedd yn broydd Cymraeg bron... am gyfnod o leiaf!
Oes 'na obaith ar ól i'r strydoedd 'ma, sy'n dystiolaeth i ddylanwad y Cymry ar dyfiant Lerpwl?...  wel 'prin iawn' yw'r ateb.  Y person mwyaf dylanwadol o ran achub hyd yn oed un stryd, sef Stryd Madryn wedi dweud ei fod o'n 'rhy brysur' i rhoi cymhorth i'r ymgyrch.  Ac mae'n ymddangos does fawr o ddiddordeb ar led ymhlith cefnogwyr y Beatles, gyda dim ond ychydig o filoedd yn arwyddo deiseb ar-lein (gan cynnwys finnau gyda llaw!) yn erbyn gweithred y Cyngor.  Pe tasai Lennon neu McCartney wedi digwydd byw mewn un o strydoedd Cymreig y ddinas, mi fasai'r ymgyrch wedi codi bach o stém mae'n debyg, ond does gan Ringo druan fawr o gefnogaeth ar ól yn ninas ei febyd, efallai oherwydd y pethau cas mae o wedi dweud amdani dros y flynyddoedd?

Er gwaethaf y gweithred trist sydd ar fin digwydd (gallai'r tai wedi eu hadnewyddu heb os) yn y Dingle, mae 'na sawl enw stryd Cymreig sy'n ddigon diogel o Jac codi baw's y cyngor, fel y rheiny a restrwyd yn erthygl Barn, ond mi fydd darn pwysig o hanes Cymru-Lerpwl - os nad hanes cerddoriaeth poblogaidd - yn diflannu cyn bo hir.

No comments: