31.5.11

Hen gyfaill sydd angen bach o waith cynnal a chadw.....

Dros y cwpl o fisoedd diwetha dwi wedi bod yn mwynhau mynd allan ar gefn beic am awr neu ddwy cwpl o weithiau'r wythnos (mi fasai rhai ohonoch chi o bosib wedi gweld ambell i 'fideofeicflog' yn fan hyn).   Er mae gen i nifer o feiciau yn y cwt, does gen i ddim ond un sy'n addas i'r ffordd fawr (hynny yw sy'n roadworthy) ar y funud.  Er hynny dwi wedi darganfod problemau sylfaennol efo hwnnw hefyd, hynny yw bod y gears yn llithro pob tro mod i'n sefyll ar y pedals er mwyn dringo allt, rhybeth sy'n gallu rhoi bach o ysgatwad i fi weithiau!  Dros amser mae danedd y sprockets wedi treulio am wn i, sy'n golygu na fydd y cadwyn yn eu dal nhw'n ddigon cadarn ac yn neidio a llithro drostynt o dan bwysau.   Ta beth, dwi newydd 'buddsoddi' yn y cydrannau sydd eisiau arna i er mwyn datrys y problem, yn ogystal a teirs a tiwbs newydd hefyd.  A dweud y gwir ges i dipyn o sioc wrth wneud, ac ym mhen dim ro'n i bron wedi treulio £100!

Digon teg am wn i, roedd y beic yn un weddol costus pan prynais i fo yn ol yn 1995, felly dyma fi yn Googlo er mwyn darganfod y prisiau erbyn heddiw.   Rhaid dweud ges i sioc arall wrth ddarganfod bod 'Dawes Super Galaxy' yn costio tua £1399 y dyddiau 'ma, tua dwbl y pris a daliais i rhai 16 mlynedd yn ol.  Mae'n siwr allwch chi ddod o hyd i un ar e-bay sydd heb cael llawer o ddefnydd am hanner y pris newydd, ond o weld y prisiau hynny, dwi'n sicr bod y buddsoddiad o gant o bunnau yn un gwerthchweil. 

Fy hen gyfaill - Dawes Super Galaxy o 1995

1 comment:

Ann Jones said...

Diddorol ac yndi, mae'n werth bob ceiniog, swn i'n deud. Mae gen i Galaxy (dwi ddim y meddwl ei fod yn Super Galaxy) nes i brynu yn 1983 a dwi'n defnyddio fo bron bob dydd i beicio 6 milltir i'r gwaith. Ac mae o o hyd yn feic dda iawn. A fel wyt ti'n deud - yn wahannol iawn i geir, mae werth beic fel hyn yn cynyddu.