Dwi newydd ddychweled o'r steddfod unwaith eto, ar ol diwrnod arall o fwynhad. Roedd rhaid i mi gyrraedd toc wedi naw a chwrdd â gweddill criw Ty Pendre ym Maes D. Gaethon ni gyfle i ymarfer darn o'r cyflwyniad 'Enoc Huws' cyn cipio paned sydyn, ond ym mhen dim roedden ni'n eistedd o flaen cynulleidfa bach ond brwdfrydig. Mi aeth pethau'n eithriadol o dda a dweud y gwir, ac roedd o'n ddiddorol clywed am y tro cyntaf yr hyn oedd gan John Mainwaring (un o drefnwyr Gwyl Daniel Owen) a Les (Barker) (cyfieithydd 'Enoc Huws') i ddweud am yr awdur o'r Wyddgrug.
Ar ol gorffen ar y llwyfan ges i siawns am sgwrs efo nifer o bobl eraill ym Maes D, gan cynnwys Nic Parry, Jonathon Simcock, Pegi Nant (dwi'n credu), ac Enfys 'Swyddog y Dysgwyr', oedd isio trafod pethau ynglyn â nos yfory. Mi ychwanegais at ei phentwr o bethau i wneud trwy datgan bod dwy o fy ngwesteion i'n vegans!!
Tra o'n i ar y ffordd i ffeindio rhywbeth i fwyta mi glywais i lais cyfarwydd yn treiddio'r awyr o un o'r uchelseinion di-ri. Ar ol dilyn y swn ffeindiais fy hun ym mhabell Prifysgol Aberystwyth lle roedd Ian Gwyn Hughes, sylwebydd Match of The Day yn sgwrsio am ei waith. Mae o'n hynod o ddifyr felly eisteddais lawr i'w fwynhau tra llyncu y 'Yakult' am ddim o'n i wedi casglu ar fy nhaith!
Cefais ymweliad diddorol i babell Ffermwyr Ifanc Clwyd er mwyn i rywun tynnu llun o 'ddysgwr' (dwn i ddim pam!), ond digwydd bod bod dwy o'r ferched ar y stondin (o ardal Rhuthun) yn nabod aelodau o deulu fy Nhad. Erbyn hynny roedd isio bwyd go iawn arna i a phiciais i lawr i'r ardal 'bwydydd i fynd' lle prynais Nwdls efo llysiau...blasus iawn. Unwaith eto dilynais swn cyfarwydd, y tro yma llais y cerddor Al Lewis, oedd yn perfformio ym mhabell Coleg Genedlaethol Cymraeg. Eisteddais ar eu 'decking' nhw felly tra wrando ar Al yn 'hoelio' cwpl o ganeuon oddi ar ei grynoddisg newydd a bwyta fy nwdls. Sylwais ar ol sbel ar 'het' cyfarwydd ar ben boi oedd yn eistedd wrth fy ymyl ac yn mwynhau'r cerddoriaeth hefyd. Dim ond Dewi Pws sy'n gwisgo y ffasiwn het meddyliais...
3 comments:
Mae o i gyd yn swnio'n ddiddorol ac yn hwyl. Dwi'n genfigennus ac isio bod yn yr Eisteddfod hefyd - ond dim eleni.........
Diolch i ti am roi blas back i'r rhai ohonno ni na fedra mynd tro yma
Dyma rysait i dy westeion vegan. Mi nes i neud brechdan tofu o'r blaen a oedd yn flasus iawn. Ffria tafell o tofu wedi'i flasu efo powdr garlleg, nionyn, cyri, halen, pupur ayyb. (Rhaid ei adael o ar lyf am ychydig cyn ei flasu er mwyn cael gwared ar y dŵr.)
Diolch i ti Junko am y rysait, mae gynnon ni flwch o tofu yn y cwpwrdd hefyd.
Diolch Ann am yr adborth, wna i sgwennu mwy am y steddfod cyn hir.
Post a Comment