6.8.11

Eisteddfod Wrecsam rhan 4...

Roedd noson nos fercher yn noson wobryo 'Dysgwr y Flwyddyn', felly ar ol diwrnod hectig a chrasboeth ym Maes D ro'n i wir yn edrych ymlaen at ymlacio gyda'r nos yn y digwyddiad arbennig hwnnw.  Mi  gyrraedom ni'r Neuadd Goffa mewn da bryd a cherddom ni mewn i gyntedd llawn syniau hyfryd telenores.
Gaethon ni Canapes a Cava yn y lle hon a siawns am sgwrs gyda nifer o ffrindiau a rhai o'r gwesteion eraill.  Ro'n i'n dechrau poeni ac ar fin ffonio fy rhieni pan welais i nhw'n closio at y fynedfa.  Prin iawn fydd fy nhad yn hwyr am yr un ddigwyddiad, ond oherwydd ddiffyg cyfathrebu, disgwyl roedden nhw yn y car i weld ein car ni gyrraedd, a hynny gan fod gen i'w tocynnau.   Ta waeth, mi gyrraedon nhw mewn pryd i gipio'r canapes olaf a setlo lawr cyn i Nic Parry, arweinydd y noson, dechrau'r noson yn swyddogol fel petai.


Mi ddarparwyd y bwyd gan fyfyrwyr Coleg Ial, a rhaid dweud roedd y safon yn eithriadol o dda, gan gynnwys detholiad rhesymol i figaniaid, oedd wrth gwrs yn cynnwys Kay, un o'r pedwar olaf, a dau o fy ngwesteion i digwydd bod. Wrth i ni orffen y pwdin, gaethon ein diddanu gan 'Parti Penllan' cyn i 'fusnes' y noson cychwyn gyda gwobryo 'tiwtor' y flwyddyn (dwi'n meddwl), a gafodd noddwyr y noson - sef y Prifysgol Agored - cyfle i'n annerch.  Dangoswyd fideo byr o'r pedwar ohono ni, sef y pedwar olaf, cyn gawsom ni ein gwahodd i flaen y neuadd i eistedd wrth ymyl y beirniaid a chael clywed 'dyfarniad' y beirniaid gan Dafydd Griffiths.  Mi ddwedodd fod yr ennillydd wedi cipio'r gwobr "o drwch blewyn", ond er i mi wrando yn astud fawr dim ydwi'n ei gofio ar wahan i hynny.   Ar ol tipyn bach o jocio am gael saib ffasiynol o hir cyn datgan enw yr ennilydd mi ddatganodd fod Kay Holder yn 'Dysgwr(aig!) y Flwyddyn 2011.  Gefais fach o sioc a dweud y gwir gan fy mod i'n disgwyl i Sarah o Fangor ennill, mor naturiol oedd ei Chymraeg yn fy mharn hi.   Heb os mi fydd Kay yn llysgennad ddiflino dros y Gymraeg (fel y mae hi dros figaniaeth), yn ei bro, dros Gymru a thu hwnt, ac ennillydd dilys ac haeddiannol.


Dwedodd ffrind wrtha i sbel yn ol nad ydy hi'n hoffi'r syniad o'r cystadleuaeth hwn, (a dwi'n parchu ei safbwynt hi) ac oherwydd hynny'n enwedig o falch mi wnaeth hi ddod i'm gefnogi ar y noson.  Mi ymgeisiais yn y cystadleuaeth pedwar mlynedd yn ol hefyd (er ni lwyddais cyrraedd y ffeinal),  felly rhaid mod i'n gweld gwerth ynddi, neu fallai person cystadleuol ydwi! Mi ddwedais nifer o weithiau dim ond am y profiad ro'n i'n cystadlu, ac mae hynny'n wir o hyd, roedd o'n profiad gwych ac un bythgofiadwy. Mi faswn i wedi bod wrth fy mod i ennill wrth gwrs, ond dwedais wrth fy hun ro'n i cystadlu i ryw raddau er mwyn tynnu sylw at y rheiny sy'n dysgu tu hwnt i Gymru, ac i ddangos bod dod yn rhugl o fewn ein cyrraedd ni.  Cymesgedd o resymau oedd fy ysgogiad am wn i mewn gwirionedd, ond roedd ymateb pawb mor wych a chefnogol dwi'n falch mi wnes i... er gwaethaf y teimlad anochel o fethiant a theimlais am ychydig o eiliadau.  Gaethon ni i gyd 'yr eilion gorau', darlun gwreiddiol o Bontgysyllte gan Max Hamblen, ychydig yn llai na'r un a gaeth Kay, oedd yn rhywbeth hynod o neis i'w gael, yn ogystal a thanysgrifiad i Golwg, £100 a 'goody bag' Merched y Wawr!

Diolch yn fawr iawn i 'nheulu a phawb arall a ddaeth i 'nghefnogi ac i'r rhai a wnaeth dymuno'n dda i mi dros yr wythnos hefyd. Diolch yn fawr iawn i Enfys hefyd (swyddog y dysgwyr) am drefnu noson fendigedig a fydd yn aros yn y cof am byth, ac i fy 'nghyd-cystadleuwyr' am wneud y profiad yn un gymdeithasol a braf!  Dwi ddim am droi yn figan eto (sori Kay!) ond pob lwc iddi yn ei blwyddyn fel Dysgwr y Flwyddyn, mi fydd hi'n wych.

2 comments:

Emma Reese said...

Dw i'n dal i gredu mai ti sydd yn haeddu'r wobr, ond dyma fo. Ella bod y beirniad ddim yn dy ystyried yn ddysgwr ond yn Gymro Cymraeg. Falch o glywed fodd bynnag fod ti wedi mwynhau'r profiad.

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.