Ar ôl i ni ymweld ag amgueddfa newydd Lerpwl yr wythnos diwetha, penderfynais 
gysylltu â'r rhaglen cylchgrawn Wedi7 (sy'n gofyn i ti wneud ar eu gwefan, os oes gen ti rywbeth o 
ddiddordeb i rannu).  A dweud y gwir o'n i wedi anghofio am yr e-bost a 
ddanfonais erbyn yn i mi dderbyn galwad ffôn gan Gwyn Llywelyn dydd Mercher.   
Roedd Gwyn (sy'n gwneud gwaith cynhyrchu o hyd, ar ôl rhoi ei het cyflwynydd yn y to 
cwpl o flynyddoedd yn ôl) yn awyddus i glywed am yr Amgueddfa a'r arddangosfa 
'Our City Our Stories' (rhan ohono sy'n adrodd hanes Cymru Lerpwl)' ac hefyd i 
wneud darn amdano.  
 
![]()  | 
| Yr arddangosfa yn Lerpwl | 
Felly bore mawrth mi fydda i'n pigo draw i Lerpwl i gwrdd â chriw Wedi7, 
'curator' yr amgueddfa, Gerallt Pennant, Ben Rees (yr arbennigwr sy'n rhoi 
cyngor i'r amgueddfa ar bethau Cymreig) a fy Mam - sy'n gallu cynnig safbwynt 
Cymraes lleol.  Mi fyddan nhw'n recordio darn efo ni i fynd allan ar yr un 
noson, a gobeithio rhoi argraff o'r hyn sydd gan yr amgueddfa i gynnig yn 
gyffredinol, yn ogystal â'r cysylltiadau Cymreig.   Dwi'n edrych ymlaen at gyfle 
arall i gael gweld ar yr adrodd gwych 'ma, ac wrth gwrs cyfarfod â phawb 
arall!

4 comments:
Da iawn Neil, bydd rhaid i mi wylio'r rhaglen Nos Fawrth. Pob lwc!
Gwych! Yn anffodus dwi'n meddwl fy mod am bod allan heno, ond mi fyddaf yn gwylio fo ar clic yn hwyrach. (A mae o'n gwneud i fi feddwl, eto - sut ar y ddaear mae nhw wedi penderfynnu i roi diwedd ar Wedi 7? Mae o'n raglen mor dda, sy'n gweithio!) Beth bynnag, edrych ymlaen
Sori, ar nos iau mi fydd y darn am Amgueddfa Lerpwl yn cael ei ddangos rwan.
Ti'n cywir Ann, rhaglen da iawn yw Wedi7. Oes 'na son am raglen arall i cymryd ei lle?
Dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw son. Mi welais i ymgyrch i acub Wedi & a Wedi3 ond dwi ddim yn cofio'r manylion. Os ffeindia'i nhw, nai bostio nhw
Post a Comment