Ond ar ol pori dros mapiau yr OS a delweddau daearyddol google earth, penderfynais anelu at lon bach arall sy'n ymddangos i arwain at y corsydd ac at ffin Cymru, Ar ol i ryw tri chwater awr o bedlo cyson mi ges i fy hun ar dop y lon cul mewn cwestiwn, ond sylwais yn syth ar arwydd newydd yna, a hynny yn dy gyfeirio at 'RSPB Burton Mere Wetlands'.
Mi fentrais i lawr, a chwta hanner milltir o'r 'prif ffordd' cyrheuddais adeilad newydd sbon yr RSPB yn Burton Mere. Yna mae 'na gyfres o lynoedd newydd a hen, sy'n dennu pob math o adar (yn ol dynes o'r elusen adar wnes i siarad efo hi). Er bod y RSPB wedi cael gwarchodfa yn fan'na ers nifer o flynyddoedd, maen nhw newydd prynu'r hen bysgodfa ac wedi addasu'r llynoedd pysgota er les yr adar, yn ogystal a chodi 'hides' newydd a chyfres o lwybrau rhyngddynt. Mae'r llecyn yma o dir yn pontio'r ffin rhwng Lloegr a Chymru, gyda thraean y gwarchodfa yn rhan o Sir y Fflint. Digon addas oedd o felly cael Iolo Williams yno dydd gwener er mwyn rhoi stamp 'springwatch' ar yr agoriad swyddogol (rhywbeth wnes i ddarganfod ar ol cyrraedd adre a 'googlo' y lle).
Iolo yn Burton Mere |
Wrth sefyll ar lannau un o'r llynoedd yn sbio dros yr aber, sylweddolais, er mor agos ro'n i at Gymru (200llath?) nad oedd modd croesi'r gors o fan'na, ac mi fasa rhaid i mi bori eto dros y mapiau. ond er hynny ro'n i'n falch o ddod o hyd i rywle mor hyfryd, a rhywle i ddychweled ato heb beic!
1 comment:
There is tool Digeus Registry Cleaner I recommend to use this software when there are problems with windows system. I also recommend to use Windsty Tune Up Suite. It restores system to a healthy state.
Post a Comment