20.2.06

Eistedd ar y fainc...

Dros y tair wythnos diweddera, ro'n i wedi cael y profiad o fod ar fainc y rhaglen 'Taro'r Post' pob dydd llun. Fel dysgwr yr iaith 'ma ro'n i'n braidd yn nerfus ar ol derbyn y gwahoddiad (ro'n i wedi siarad ar y rhaglen unwaith o'r blaen ond ddim 'yn fyw' fel petai). Heb waith galed y golygydd sut faswn i'n swnio....! Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu dros amser cinio, yn trafod unrhyw pwnc o ddan y haul, rhywbeth yn y newyddion neu o ddidordeb penodol i un o'r gwrandawyr (dychi'n gallu rhoi eich barn o'r 'bocs sebon'). Mae'r aelodau y fainc yn cael eu dal ar y lein er mwyn dweud eu dweud ar y pynciau dan sylw (falle os neb arall wedi ffonio..!) o bryd i'w gilydd yn ystod y rhaglen. Dych chi'n cael wybod am y pynciau cyn i'r rhaglen yn mynd allan i rhoi amser i chi i feddwl am farn amdanhi. Y pynciau ddoe oedd ' Fliw adar', Rygbi (eto..gwych), ac prisiau nwy. Dwi ddim yn berson i weiddi fy mharn o'r to fel arfer, yn enwedig yn y Cymraeg, ond mae hi wedi bod profiad diddorol iawn i feddwl o ddifri am y pynciau, ac heb os mae fy nhgymraeg wedi gwella trwy'r profiad.

2 comments:

Nic said...

Chlywais i mohonot ti yn anffodus, ond da iawn i ti am ei wneud. Cymryd lot o gyts.

neil wyn said...

Diolch Nic,Mae'n well i beidio meddwl am y peth gymaint! Ro'n i'n hongian ar y lein dydd llun wrth i'r cawr rygbi Ray Gravell yn siarad am sefyllfa'r chwe gwlad yn disgwyl cael fy holi unrhyw eiliad ac yn trio meddwl am rhywbeth doeth ac wahanol i ddweud ar y pwnc. Hollol syri^l!