29.8.06

Tafarn ar lein...

Dwi wedi bod yn meddwl ers sbel rwan am greu rywfath o 'dafarn ar lein' er mwyn cyfarfod a siaradwyr Cymraeg eraill am beint neu ddwy. Dwi'n teithio draw i'r Wyddgrug (taith o dua 25 milltir) pan dwi'n gallu nos iau, ond dwi'n sicr bod y tecnoleg yn bodoli yn barod er mwyn gadael iddyn ni creu tafarn 'virtual' i ddysgwyr mwy profiadol cael ymarfer efo Cymry Cymraeg a dysgwyr eraill. Yn sicr, fydd 'na raid iddyn ni ddarparu ein diodydd ein hunan ond pam lai dod a^ chriw o bobl gyda eu gilydd yn y fordd yma am sgwrs.

Dwi wedi lawrlwytho 'Skype' sy'n honni cael y tecnoleg er mwyn gwneud 'Skypecast' sy'n rhywfath o offer i'ch helpu chi creu sgwrs rhwng cymaint a chant o bobl ar yr un pryd. Dwi wedi bod mewn ambell Skypecast and mae'n ymddangos bod y peth yn gweithio i raddau (mae'r 'host' yn gallu rheoli faint o bobl sy'n cael meics 'ar agor' ar yr un pryd - rhywbeth sy'n effeithio safon y swn dwi'n meddwl), ond mae unrhywun yn gallu tynnu sylw y host er mwyn iddyn nhw agor eu meic. Mae Skype yn rhad ac am ddim a dwi wedi cael y peth ar fy nghyfrifiadur ers flwyddyn heb problemau.

Felly mae gen i ychydig o gwestiynau i unrhywun a^ diddordeb:

Oes gynnoch chi unrhyw noson ar gael er mwyn arbrofi efo Skypecast?

Wyti'n gwybod unrhywun system arall sy'n gwneud yr un peth yn well?

Wyti'n meddwl mae'n syniad call...?

Dwi'n byw ym Mhrydain felly dwi'n meddwl am rhywbryd yn ystod y nos (21.30-22.30 falle)

8 comments:

Rhys Wynne said...

Mae'r syniad yn un da, ond roeddwn i'n meddwl bod Siawns am Sgwrs? yn synaid da hefyd!

Wyt ti wedi ei grybwyll ar CMC?

Yn amlwg y rhai technically minded fydd y rhai cyntaf i fantesio a y peth a dychmygaf y bydd yn apelio mwy i ra sy'n byw tu alan i Gymru.

neil wyn said...

Roedd 'Siawns am sgwrs' yn syniad da 'swn i'n dweud, falle diffyg gwybodaeth amdanhi oedd y problem...? Dwi'n cofio mynd yna unwaith, ond wedyn (siwr o fod) anghofiais amdanhi (sgen i ymenydd fel rhidyll).

Y peth dwi angen yn fwyaf mewn gwirionydd ydy siawns am sgwrs 'go iawn' fel petai. Dyna o le ddaeth y syniad o 'dafarn dychmygol' yn fanteisio ar fand llydan sy'n ehangu'r posibiliadau pob dydd. Falle mae 'na rywbeth sy'n bodoli yn barod. Does dim rhaid cael lot o bobl er mwyn gwneud y peth yn gweithio, dim ond cwpl sy'n cytuno bod yna ar yr un pryd. Mi wna i'w grybwyll ar CMC a llefydd eraill.

Hwyl, Neil

Rhys Wynne said...

Ti'n iawn bod cael sgwrs 'go iawn' yn bwysig/bwysicach, ac yn anoddach nag chyfathrebu drwy ysgrifennu (sydd wedi dod yn rhywbeth digon hawdd diolch i dechnoleg blogio)

Tom Parsons said...

Fi! Mae gen i ddiddordeb! Jyst duda wrtha lle a phryd!

neil wyn said...

Da iawn Tom, mi wna i. Dwi'n mynd i son am y syniad mewn cwpl o lefydd eraill cyn i mi trefnu sesiwn arbrofiadol,

Hwyl, Neil

Tom Parsons said...

Iawn. Mae rhaid i fi prynu microffôn cyn bo hir, 'ta!

James said...

Dy syniad di'n fawr yn wir, bydd fy nghymraeg ar lafar yn 'suck' ond fe faswn i’n gallu bod i fyny i ei geisio e.

neil wyn said...

Diolch James am dy ymateb, dwi'n ceisio sefydlu rhywbeth wythnos nesa.