Ro'n i'n mynd trwy fy nghopi o'r cylchgrawn Golwg y heno 'ma pan sylwais i ar colofn adolygiadol 'Ar y Bocs' (gan Catrin Dafydd y wythnos hon). Cafodd yr holl colofn ei ymroddi i raglen 'O flaen dy lygaid', ac yn enwedig i brofiadau ein cyfeillion ni o'r Unol Daliethau sef Chris a Rachel Cope. Dwi ddim yn meddwl mod i wedi crybwyll y rhaglen yma o'r blaen, ond mi gafodd y byd bach o flogio Cymraeg sylw gwerthfawr yn ystod y rhaglen, ac roedd hi'n profiad rhyfedd i weld darnau o'r fidioflogiau mod i'n cyfarwydd efo nhw o'r fan'ma ar y sgrin fawr!
Dwi'n gobeithio bod Chris a Rachel wedi troi cornel erbyn hyn, ac eu bod nhw'n gallu teimlo'r un fath o groeso yn y Gymru go iawn ag y teimlodd Chris yn y Cymru 'dychmygol' ar y we!!
2 comments:
Helo Neil!
Do , fe gafodd y we a byd y blogiau Cymraeg beth sylw ar y rhaglen. Mi fuaswn yn mwynhau gweld rhaglen arall ar fywyd Chris a Rachel Cope ymhen y flwyddyn i weld sut mae pethau'n datblygu.
Pob hwyl i ti ar y blogio!
Neil,
Roedd y rhaglen 'na ddim ar gael i fi yn y Unol Daliethau, ydy hi ar gael ar y we? Ond dw i'n cyd-fynd gyda chi am Chris yng Nghymru. Mae e'n haeddu y adnabyddiad a holl o'r 'hype' ei fod e'n cael. Mae e'n nodedig iawn i ddweud yn wir.
Post a Comment