26.10.08

Bruce....

O'r diwedd dwi wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf mod i erioed wedi gwneud yn yr iaith Cymraeg, (wel ar wahan i danysgrifio i 'Golwg'...) trwy prynu copi o'r cyfrol swmpus o'r enw 'Geiriadur Yr Academi', neu'r 'Geiriadur Bruce'fel mae'n cael ei alw weithiau. A dweud y gwir, dwi wedi bod yn ystyried ei brynu ers misoedd lawer, ond efo tipyn o arian yn llosgi twll yng ngwaelod fy mhoced yn sgil jobyn 'pres parod', a finnau ar 'Amazon' yn archebu llyfr arall, wnes i ati i glicio'r dolen 'add to basket'. O fewn eiliadau roedd y llyfr mawr brown a glas ar ei ffordd i'n tŷ ni.

Y ddiwrnod wedyn, mi es i adre o'r gweithdy amser cinio i ddod o hyd i gerdyn yn y porth yn dweud o'n i newydd colli cludiad 'City Link', ac mi fydd rhaid i mi drefnu ail-cludiad ar y ddiwrnod gweithio nesaf, sef ar ôl y penwythnos. "Diawl" meddyliais, (neu rhywbeth felly...) cyn mynd amdanhi i greu brechdan sydyn a dychweled y tri chwater milltir i'r gweithdy. Ond am gyd-ddigwyddiad, ar y ffordd yn ôl, dyma fi'n gweld fan melyn a gwyrdd City Link yn y pellter yn diflannu rownd cornel. 'Beth yw'r siawns o'r fan yna'n bod y fan efo 'mecyn fi ar ei bwrdd?' meddyliais, cyn wibio ar ei ôl. Cyn bo hir mi ddoth y fan i stop, er mwyn gadael pecyn arall siwr o fod, a neidiais i allan o fy fan fi i holi gyrrwr 'City Link' ynglŷn â'r pecyn Amazon. Teimlais fawr rhyddhad pan cadarnhaodd y gyrrwr, do, roedd pecyn fi ar ei fan, ac mai dim ond rhaid i mi dweud fy nghôd post a rhoi llofnod ar ddarn o babur i dderbyn fy mhecyn o Amazon.

Agorais y pecyn gyda'r parch priodol i becyn gwerth hanner cant o bunoedd, a ches i mo fy siomi pan deimlais y geiriadur ysblenydd yn fy nwylaw am y tro cyntaf. Mae'n sicr o fod yn defnyddiol tu hwnt, yn enwedig yn y cyfnod yma, pan dwi'n ceisio trosglwyddo'r iaith i eraill, heb fod yn siaradwr Cymraeg brodorol. Mae'n llawn enghreifftiau o sut i ddefnyddio'r geiriau di-ri sy'n llenwi ei mil a thri chwater o dudalenau tennau. Mae'n dipyn o fuddsoddiad yndy, ond hyd yn hyn un dwi'n gweld fel un gwerth yr arian.

2 comments:

Corndolly said...

Derbyniais i'r Geiriadur Mawr fel anrheg pen-blwydd yr llynedd pan ddechreuais i'r cwrs Safon A Iaith Cyntaf. Mae'r llyfr yn eistedd ar y silff yn y prif le, yn agos at fy nesg. Ond rŵan, wrth i mi wneud y cwrs gradd Cyfieithu, dw i'n ei ddefnyddio fo'n fwy aml. Mwynha dy lyfr.

Nic said...

Bruce yw'r boi, olreit. Dw i byth yn blogio hebddo fe wrth fy ochr.