Mi ddes i o hyd i defnydd ardderchog ar ran dysgu'r Gymraeg ar safle 'The Big Welsh Challenge' wythnos diwetha. Wnes i ddefnyddio ychydig o'r 'clips' bach neithiwr yn y dosbarth nos, diolch i'r technoleg sy'n ar gael mewn pob un ystafell dosbarth ysgol erbyn hyn. Ar ól i mi gael cymhorth yr ysgrifenyddes i droi'r 'taflunydd' ymlaen ac i fy logio ar rwydwaith yr ysgol roedd popeth yn iawn. Ces i ddim trafferth nes bod y 'cyfundrefn' fy nghloi i allan yn awtomatig wedi cyfnod o ddiweithgarwch! Mi wibiais i fyny'r grisiau i'r swyddfa er mwyn cael y cyfrinair a chario ymlaen gyda'r dosbarth.
Gobeitho mae'r yr amrwymiad o gael rhywun arall (Glyn Wise!!) yn dysgu y dosbarth, trwy gwyrthiau technoleg cyfoes, wedi bod o fudd i'r dysgwyr! mae'n rhywbeth iddyn nhw cael defnyddio adre hefyd wrth cwrs sy'n peth da. Pe tasai'r gwersi ar lein 'ma ar gael pan o'n i yn dechrau ddysgu Cymraeg, mi faswn i wedi eu croesawu á breichiau ar led, heb os nag onibai!
2 comments:
Mwy na thebyg bu yna wersi ar-lein. Cofia mai trwy'r we dysgwn i. Am wn i, mae Catchphrase ar gael ar-lein ers 1997.
Ti'n iawn Chris, ond mi ddes i at y we byd eang yn cymharol diweddar, tua saith mlynedd yn ól bellach. Dwi'n cofio gwrando ar 'Catchphrase' ar Radio Wales amser te pob noson am cyfnod yn ól yn yr wythdegau cynnar, credwch neu beidio! Do, mae hi wedi bod taith go hir... ond un gwerth ei wneud yn y pendraw sgwn i..
Post a Comment