23.10.08

Noson Gwylwyr Lerpwl...

Yn ôl cyflwynydd y noson, mi welodd Noson Gwylwyr S4C yn Lerpwl un o'r cynulleidfaoedd mwyaf a welodd o mewn cyfarfod o'r fath. Roedd hi'n braf gweld yr ystafell crand yn y Bluecoat Chambers (adeilad hanesyddol ac enwog,ac yn perffaith am baned a saib bach o fwrlwm y ddinas) llawn o wylwyr y sianel, yn barod i fynegu eu barn am gynhyrch yr orsaf teledu Cymraeg. Clywon ni hefyd gan arbennigwr technegol manylion ynglŷn â'r 'signal' digidol bydd dim ond ar gael (neu ddim!) i wylwyr dros y ffin wedi'r newidiadau i ddod. Mae'n ymddangos bod y signal digidol yn llawer mwy pennodol ar ran daearyddiaeth na'r signal analog, ac o'r herwydd yn llai tebygol o gario yn bell tu hwnt i ffiniau Cymru. Fel person sy'n dibynnu ar y signal analog, roedd hynny'n newyddion ddrwg, ond erbyn hyn dwi wedi derbyn mi fydd rhaid i mi fuddsoddi mewn disgyl lloeren a blwch o driciau er mwyn cario ymlaen gwylio'r sianel ar y teledu. O'n i'n gobeithio mi fasai'r signal digidol yn cryfhau ar ôl i'r signal analog cael ei diffodd, ond yn ôl pob son does fawr siawns o hynny'n gwneud effaith fan hyn yn Lloegr. Dwi'n meddwl mai Freesat ydy'r ffordd gorau i fynd i finnau, yn enwedig gyda S4C yn dechrau darlledu rhai pethau mewn fformat HD cyn bo hir. Mae gynnon ni teledu HD ond 'sgynnon ni ddim ffordd o dderbyn y lluniau yn y dull honno, ond mi fasai Freesat yn ei galluogi hynny.

Mae'n ddrwg gen i! dwi wedi crwydro'n bell o 'deitl' y blog 'ma, sef y noson ei hun! Roedd hi'n noson da, gyda sawl person yn dweud eu dweud am raglenni hen a newydd. Wnes i ddim dweud dim byd yn ystod y trafodaeth cyhoeddus, ond ces i gyfle i sgwrsio efo un o rheolwyr y sianel ynglŷn â'r darpariaeth i ddysgwyr (yn gwisgo fy het fel 'tiwtor' yn ogystal a dysgwr) a soniodd hi am wasanaeth newydd i ddysgwyr, bydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd, ac mae'n amlwg o sgwrsio gyda hi bod dysgwyr yn rhan bwysig o 'gynulleidfa targed' S4C, rhywbeth dwi'n cydfynd a hi'n llwyr. Awgrymodd un o do ifanc y cynulleidfa gwneud rhaglen yn dilyn hynt a helynt dysgwyr yn gwneud tasgiau gwahanol fel rhyw fath o 'teledu realaeth', soniodd y rheolwraig am 'Welsh in a Week' a meddyliais i am 'Cariad @ Iaith', y cyfres am ddysgwyr o Nant Gwrtheyrn, rhaglenni diddorol iawn, ac felly mae'n hen bryd ailgylchu'r syniad mewn newydd wedd, gawn ni weld...

Awgrymodd Dion, boi trin gwallt enwog o Lerpwl, cynhyrchu rhaglen fatha 'Come Dine with Me' yn y Gymraeg er mwyn dennu cynulleidfa ifancach, ac yn y fan a'r lle datblygodd y syniad i fod yn rhaglen realaeth wedi ei gosod mewn siop trin gwallt yn Lerpwl efo Cymru Cymraeg y ddinas (neu falle dysgwyr hefyd!) yn dod am driniaeth a sgwrs difyr a Dion!! Syniad diddorol tu hwnt..

Wrth rheswm roedd 'na gwyno am regi a rhyw ar y sianel (cofiwch roedd 'na griw go lew o gapelwyr yna) ond yn y bon roedd 'na ymateb cadarnhaol gan yr ifanc a'r hen. Roedd un o fy myfyrwyr yn ddigon dewr i droi fyny efo ei gariad (sy'n siarad Cymraeg), chwarae teg iddo fo, gwisgodd y clustffoniau oedd ar gael gyda cyfiethiad Saesneg ar y pryd, a dwi newydd derbyn tecst yn dweud sut gymaint a wnaethon nhw mwynhau'r noson. Felly noson da, a diolch i S4C am ei drefnu.

No comments: