1.10.08
Y gwasanath genedlaethol yn ei newydd wedd...
Mae Radio Cymru yn setlo mewn i'w patrwn beunyddiol newydd ar ôl i'r newidiadau ysgubol i amserlen y dydd. Mae'n hen amser i rai o'r hen 'jingles' cael eu dileu o'r tonfeydd, felly o'n i'n falch o glywed syniau'r rhai newydd yn tori ar draws bore llun yn gynharach yn y wythnos. A dweud y gwir, er o'n i'n eitha feirniadol o'r penderfyniad i symud Jonsi i'r p'nawniau am dair awr, ar fy rhan i dwi'n ddigon falch, gan mod i'n tueddi gwneud gwaith sy'n caniatau i mi wrando'n fwy astud yn y boreuau, ac mae'n well gen i wrando yn astud i bar newydd y boreuau sef Daf Du ac Eleri Sion a'u ambell i westeion, na Jonsi i fod yn onest! Mae'n siwtio amserlen fi hefyd bod Taro'r Post wedi symud i hanner y dydd, rhaglen arall dwi'n mwynhau canolpwyntio arnhi pan gwneud gwaith cymharol dawel wrth y fainc, sy'n digwydd bod drws nesaf i'r set radio. Erbyn un o'r gloch dwi wedi diffodd y radio fel arfer, wel os dwi ddim yn gyrru beth bynnag. O'r hyn dwi wedi clywed mae hen Jonsi wedi ei 'ailfampio' rhywfaint, ac mae 'na ryw creider i'r sioe, er dwi'n dal i feddwl mai tair awr yn dalp sylweddol o'r amserlen i roi i un cyflwynydd ar orsaf megis RC. Digon o westeion a llawer o gerddoriaeth, dyna'r ateb falle!! mae'r rheithgor yn dal i fod allan, er dwi wedi mwynhau y rhan mwyaf o'r cynnyrch dwi wedi ei glywed hyd yn hyn.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Ga i dy gyfeiriad e-bost, Neil, mae gen i fanylion y noson efo Gwyneth Glyn a mwy o bethau yn yr ardal 'ma. Neu os nad oes well gen ti roi dy gyfeiriad yma, dyma fy nghyfeiriad cyhoeddus : rosemaryralphes@hotmail.com
Post a Comment