8.10.08

Grrrr...

Mae'r e-bost wedi torri eto... grrrr. Wnaethon ni golli'r gwasanaeth am ychydig o ddyddiau mis neu ddwy yn ôl, gyda 'outlook express' yn gofyn am fy 'nhrwyddedair' tro ar ôl tro amser ac wedyn yn ei wrthod, yn gwneud i mi regi o dan fy ngwynt tro ar ôl tro. Wnes i drio cael golwg ar fy e-byst trwy 'mail2web' hefyd, ond does dim gwasanaeth ffordd yna chwaith. Mae'n edrych fel yr un un problem sydd ar fai, felly does fawr o bwynt gwastraffu amser yn ceisio siarad gyda rhywun ar linell cymhorth drud, fel mi wnes i'r tro diwetha. Os dwi'n cofio'n iawn mi ddoth y gwasanaeth yn ôl fel webmail (neu 'gwebost'!)yn gyntaf, cyn i'r peth dechrau gweithio ar OE.

Ond sdim ots, ar wahan i ambell i sylw ar y blog hon, neu ambell i neges o bwys yn cysylltiedig â'r gwaith, mi fydd y 'blwch mewn' llawn rwtsh llwyr sy'n debygol o hedfan yn syth i'r 'blwch o eitemau sydd wedi eu dileu, ond sy'n dal i cymryd lle ar ddreif galed fy ngliniadur am ryw rheswm'!

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mi wnes i fwynhau'r cwmni a'r sgwrs yn y sesiwn sgwrs heno yn Yr Wyddgrug, ac mi aeth y dosbarth nos fawrdd yn weddol, gyda phawb erbyn hyn wedi talu am y flwyddyn cyfan, sy'n arwydd da dwi'n meddwl

2 comments:

Chris Cope said...

Does yna angen am ddefnyddio Outlook Express neu Outlook os dwy ti ddim yn rhan rhwydwaith.

Corndolly said...

Dw i wedi cael problemau efo e-bost yn ddiweddar hefyd. Gobeithio byddi di'n derbyn fy e-bost heddiw am docynau Noson Galan Gaeaf