10.2.09

Mae'r sgowsers yn cofio o hyd....


Piciais i mewn i Barc Penbedw heddiw er mwyn ymweled â'r pafiliwn ysblenydd newydd am baned o goffi, gan o'n i wedi bod yn gweithio dim ond rownd y cornel. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd er oer, felly penderfynais mynd ar drywydd cof colofn dwi wedi clywed un or dosbarth nos yn son amdanhi, sef y maen a gafodd ei godi i ddathlu Eisteddfod 1917. Dwi wedi byw yn yr ardal trwy fy mywyd, ond dwi erioed wedi gweld y colofn 'ma. Mae Eisteddfod Birkenhead 1917 yn adnabyddus yn y bon oherwydd yr amgylchiadau ynglŷn â'r cadeirio, a'r ffaith mi gafodd y cadair ei gorchuddio efo brethyn du, gan fod 'Hedd Wyn' ennillydd y cadair, sef Ellis Humphrey Evans wedi cael ei ladd yn y rhyfel mawr ychydig o ddyddiau yn gynt.

Mi ddes i o hyd i'r darn o farmor heb ormod o drafferth a dweud y gwir. Mae'n sefyll o fewn ffens dur mewn cyflwr eitha dda, o ystyried pa mor ddifreintiedig ydy'r ardal o amgylch y parc ar ddwy ochr o leiaf y dyddiau 'ma. Ond mae'r parc wedi ei adnewyddu a'i adfywio erbyn hyn, wedi flynyddoedd o fod yn dipyn o ardal 'no-go' fel petai!

Mae'n anhygoel gweld cofeb i ddarn o hanes Cymru mewn parc ar Lannau Mersi, parc wnaeth unwaith atseinio i filoedd o leisiau Cymraeg...

5 comments:

Corndolly said...

Diolch am ddangos y gofeb 'ma. Dôn i ddim yn gwybod bod 'na gofeb ym Mhenbedw am yr eisteddfod enwog yn 1917. Astudiais i 'Hedd Wyn' wrth wneud y flwyddyn cyntaf Safon A felly dw i'n gwybod hanes Elis Humphreys yn fanwl. Dw i'n bwriadu dweud wrth fy hen diwtor am y gofeb. Oes siawns i ti anfon copi'r llun ataf trwy'r e-bost plîs?

Rhys Wynne said...

A'i ti gymerodd y llun? A fyddai di'm fodlon i mi ei ychwanegu at erthygl yr Eisteddof d ar Wicipedia?

Cyn dweud ia, wyt ti'n ffysi ofnadwy am bwy sy'n defnyddio dy luniau? Achos mae Wicipedia gyda polisi (o ryw fath) o ddim ond defnyddio lluniau ble'r sawl a dynnodd y llun yn fodlon i unrhyw un ei ddefnyddio, cyn belled a bod cydnabyddiaeth iddo/hi pob tro mae'n cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn wahanol i Copyright, ble mae'n rhaid gofyn am ganiatad gan berchennog y llun pob tro.

neil wyn said...

Popeth yn iawn Rhys, fy llun i yw hi, croeso i unrhywun ei defnyddio. A dweud y gwir wnath fy ffôn rhedeg allan o bŵer cyn i mi gael cyfle i dynnu ail llun fel 'back up', ond digwydd bod roedd yr un cyntaf yn iawn.

Rhys Wynne said...

Diolch ynfawr. Clicio ar ddolen yr erthygl i'w weld, a cliciau ar y delwedd i weld dy gydanbyddiaeth.

Cymry'r Canolbarth said...

Braf cael clywed am ddosbarth Cymraeg yn ardal Penbedw. Dan ni'n gwneud ein gorau glas i hybu'r hen iaith yn ardal Swydd Derby, gwelir ein blogiau ni, sef
http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com a http://cymryycanolbarth.blogspot.com .
Mi fydd'na groeso i unrhywun cysylltiedig efo dysgu'r Gymraeg cysylltu a ni trwy ein blog ni.
Pob hwyl.