16.7.09

Pethau'r haf

Wel mae gwyliau'r haf bron a bod yma, efo'r ysgolion yn lleol yn torri fyny p'nawn yfory. Yn anffodus mi fydd rhaid i mi weithio'r rhan mwyaf o'r gwyliau gan fod y cyfrif banc yn edrych braidd yn sal ar ôl i mi symud gweithdy a cholli rhagor yn helpu sortio pethau ar ran 'pethau ymarferol' fy niweddar tad yng ghyffraith.

Roedden ni wedi bwcio pedwar noson mewn bwthyn reit deiniadol tu allan i Lanuwchllyn tuag at diwedd y gwyliau ysgol, ond gaethon ni wahoddiad reit haul i ddefnyddio bwthyn am ddim, un sy'n perthyn i ffrindiau, i fyny yng Nghwm y Glo ger Llanberis. Dyni wedi bod yno o'r blaen a gaethon ni egwyl hyfryd iawn, felly dwi wir yn edrych ymlaen at dreulio ychydig o ddyddiau yno yr wythnos ar ôl i'r Eisteddfod.

3 comments:

Emma Reese said...

Wythnos ar ôl yr Eisteddfod! Drueni! Mi fydda i yn Llanberis yr wythnos cyn yr Eisteddfod.

Corndolly said...

Oes gyfle gen ti i ddod i'n cyfarfod yn yr Eistedd?

neil wyn said...

Dwi wir yn gobeithio bod yn y cyfarfod!

Mae'n bechod na fydda i'n dy weld di yng nghyffiniau Llanberis, ond edrychaf ymlaen at dy weld ar maes y steddfod!