3.8.09
Bar uchel tu hwnt....
Mae amser cystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' wedi cyraedd unwaith eto. Y bore 'ma mi ddarllenais ddarn am y pedwar terfynydd eleni, a rhaid dweud bod y bar wedi ei osod yn uwch nag erioed yn fy mharn i. Grwandewch at y pedwar yn siarad ar y wefan hon. (dim ond dyfalu ydwi, ond faswn i'n tybio yr americanes yw'r un ar y chwith..)
Mae'r criw i gyd yn edrych yn andros o ifanc ac mae nhw'n siarad Cymraeg sy'n swnio i mi'n naturiol a rhugl. Ro'n i'n hyd yn oed yn medru dyfalu yn weddol hyderus pa un sydd wedi dysgu Cymraeg yn ardal Caernarfon trwy ei acen cryf (arwydd mae'n siwr o ddysgwr sydd wir wedi ymgartrefu mewn cymdeithas). Mi fasai unrhywun ohonyn nhw'n haeddu'r gwobr am eu campau ieithyddol, ond fel arfer mae'r beirniaid yn ymchwilio mewn i'w cyfraniadau i'r iaith mewn sawl ffordd, nid yn unig pa mor rhugl ydyn nhw, felly gawn ni weld nos fercher pwy fydd yn cipio'r gwobr fawr...
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Roedd yn wych cyfarfod â ti o'r diwedd ddoe. Gobeithio bydden ni'n gallu cyfarfod yn y dyfodol ac yn rhannu profiadau o dysgu'r hen iaith.
Dw i ddim yn hoffi'r cystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' yn anffodus. Roeddwn i'n mwynhau siarad â nhw, ond yn fy marn i, dydy y cystadleuaeth ddim yn rhoi ysbrydoliaeth i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Dw i'n sôn am y pobl sy wedi bod yn dysgu dros y blynyddoedd heb fod yn rhugl, ac maen nhw'n gweld rhywun ar y teledu sy'n hollol rhugl ar ôl dwy neu dair flynedd.
Chwarae teg i bobl sy'n gallu gwneud hynny, ond dw i wedi gweld yr effaith negyddol mae hyn yn cael ar lawer o bobl. 'Pam ddylwn i gario ymlaen efo dysgu. Dylwn i fod wedi dysgu'r iaith erbyn hyn, does dim pwynt i mi barhau'
Ond fel dywedais i, dim ond fy marn yw hyn.
Heia Ro, methais weld dy sylw cyn i mi sgwennu pwt arall am y cystadleuaeth yma, sy'n bechod mewn ffordd, am fod i'n gweld dy bwynt ac yn cytuno i raddau.
Fel person wnaeth ymgeisio yn y cystadleuaeth dwy flynedd yn ôl (pam dwn i ddim! 'am y profiad' dwedais ar y pryd, ond methais cyrraedd y feinal beth bynnag), welais y cystedleuaeth fel uchelgais, rhywbeth i anelu ato fo. Ond ar ôl methu symud ymlaen, teimlais cwymp yn fy hyder am sbel.
Fel tiwtor a dysgwr y dyddiau 'ma, mi dylswn i weld y peth trwy llygaid dysgwyr heb ddigon o amser falle, neu ddiffyg hyder a chyfleoedd i ymarfer. Hynny yw pobl cyffredin, sy'n cymryd flynyddoedd o waith galed i gyrraedd safon terfynwyr cystadleutau o'r fath hon.
Ond wedi dweud hynny, ar ran cyhoeddusrwydd, falle mae'n defnyddiol rhoi llwyfan fel hynny i sêr y byd dysgu Cymraeg?
Hi Neil, dyna'r pwynt y tu ôl i bob cystadleuaeth , ac mae'n siŵr bod yr un peth yn digwydd mewn unrhyw pwnc. Ond wrth ystyried dysgu iaith fel y Gymraeg, hyder yw'r peth pwysicaf. Hebddo fo byddai yn anodd i wella, ond peth bregus yw hyder, wrth gwrs.
Mae gen i ddau ffrind a oedd yn cystadlu eleni a nid oedden nhw'n cyrraedd y rownd terfynol. Ar yr wyneb, mae'r ddau ohonynt yn ymddangos yn hollol iawn efo'r penderfyniad. Rhaid i mi eu gofyn pam wnaethon nhw gystadlu yn y lle cyntaf.
Ac mae gen i ffrind a gyrhaeddodd y rownd terfynol pum mlynedd yn ôl. Mae hi'n dysgu fel tiwtor rŵan ac roedd hi'n gallu symud ymlaen i fod yn llwyddiannus, ond am dipyn roedd ei hyder yn isel iawn.
Efallai, fi sy ar fai i feddwl fel hyn. Dw i ddim yn berson gystadleuol o gwbl, ac dw i'n hoffi gweld pawb bod yn llwyddiannus. Dwywaith ces i fy ngofyn i gystadlu, ac dw i wedi gwrthod dwywaith hefyd. Ar ôl cyfarfod â'r cystadleuwyr eleni, fyddwn i ddim wedi cael siawns o gwbl.
Ond ar ôl gweld wyneb yr enillwr ar y llwyfan ddoe, rhaid i mi ddweud, dw i'n gallu dychmygu'r teimlad o ennill y cystadleuaeth.
Post a Comment