5.11.09

.Ffenestri 7......

Mae'n peth amser ers i mi fuddsoddi mewn offer cyfrifiadurol (5 flynedd o bosib, sy'n amser maith yn y byd sydd ohoni), felly penderfynais mynd amdanhi i ddiweddaru'r gluniadur yr wythnos yma, gyda'r bwriad o gadw'r 'hen' beiriant lawr yn y gweithdy i wneud tasgiau'r 'swyddfa', yn fan'na, pethau dwi wedi tueddi wneud adre yn y gorffenol.

Mae penderfyniadau o'r fath yn cymryd oesoedd i mi, gyda'r holl ymchwil ar we, a'r loitran o amgylch yr adran cylchgronnau yn Morrisons, yn ceisio ymddangos difater ynglŷn â'r cylchgrawn yn dy ddwylo, tra ceisio dadansoddi manylion diflas rhai 'group test' o'r peiriannau diweddaraf. Digwydd bod mae 'na fersiwn newydd o Windows hefyd, felly dyna ysgogiad arall i'r cwsmer efo 'hen' beiriant buddsoddi mewn cyfrufiadur newydd er mwyn lladd dau aderyn ag un ergyd fel petai (er o'n i'n digon bodlon fy myd â windows XP). Datblygiad o Vista yw Windows 7 wrth cwrs, system weithredu dwi'n cyfarwydd efo hi ar luniadur y merch, ond rhaid dweud dwi'n wrth fy modd â'r newidiadau rheiny mod i wedi cael hyd iddynt hyd yn hyn. Mae 'na olwg glanach iddi hi (iawn, mae hynny'n dod yn syth o 'sbiel' Microsoft Inc.), efo'r 'taskbar' yn fwy gweithredol a symlach, ac yn edrych yn fwy fel 'Taskbar' Apple a dweud y gwir. Dwi'n hoff iawn hefyd o'r gallu i lusgo ffenestr tuag at ochr y sgrîn a'i chael hi'n troi yn syth at ffenestr hanner faint yn union y sgrîn. Dim mwy ffwdanu er mwyn cael dau ffenestr ochr wrth ochr ar y sgrîn, rhywbeth wna i'n aml tra weithio, ac efo sgrîn 17" 16:9 mae 'na ddigon o le i'w wneud. Yn ogystal a hyn i gyd, wrth rheswm mae'r peiriant mae rhywun yn ei prynu heddiw am bris tua hanner prisiau pump mlynedd yn ôl, yn gallu gweithio gyflymach a storio mwyach nag erioed o'r blaen, mae'n anhygoel!!

Efo'r newid i ddigidol sydd ar fin digwydd yng Nghymru, fydda i'n dibynnu ar y cyfrifiadur i wylio S4C o hyn ymlaen, am nad oes y signal digidol yn ddigon cryf i'n cyrraedd o Foel y Parc gwaetha'r modd. Ond ar y sgrîn yma mae'n ddigon derbyniol a chei di ddewis pryd wyti'n gwylio'r raglenni hefyd.

No comments: