20.11.09

Dwy ochr hogyn Deiniolen...


Dwi wedi ychwanegu llyfr arall i'r rhestr o'r rhai dwi'n bwriadu darllen dros y misoedd nesaf, ac hynny yw 'Hunangofiant' gan Malcolm Allen.

Fel mae pawb sy'n dilyn pêl-droed yng Nghymru yn gwybod yn iawn, cyn chwaraewr Cymru, yn ogystal a nifer o glybiau yn Lloegr yw Malcolm, a symudodd o'i gartref yn Deiniolen yn un ar bymtheg oed fel prentis i dîm Watford (ac hynny yng Nghyfnod aur y clwb hwnnw gyda arian Elton John yn ei yrru). Mi ddisgynodd olwynion gyrfa Malcolm Allen i ffwrdd yn 28 oed oherwydd anaf difrifol i'w benglîn (ifanc iawn, hyd yn oed yng gnhyd-destun y byd pêl-droed proffesiynol), pan oedd o o dan rheolaeth Kevin Keegan yn Newcastle United.

Dwi wedi clywed a darllen ambell i ddarn (fel pawb arall!) am ei broblemau gor-yfed, gor-yrru ac ati dros y flynyddoedd a ddilynodd ei ymddeoliad 'cynamserol' o chwarae'r gêm hardd , ond mi fydd hi'n diddorol clywed yr hanes trwy ei eiriau ei hun fel petai (wel gyda chymhorth ei gyd-sgwennwr). O'r cyfweliadau dwi wedi eu clywed er mwyn iddo fo hybu'r llyfr, mae'n swnio fel ei fod o wedi sgwennu'r llyfr o'r galon, ac nid jesd er mwyn gwneud pres (oes 'na bres i gael ei wneud allan o sgwennu llyfr Cymraeg? prin iawn tybiwn i). Erbyn hyn mae Malcolm wedi sefydlu ei hun fel un o'r sylwebyddion pêl-droed amlycaf yn y byd darlledu Cymraeg. Mae hynny'n peth rhyfedd mewn ffordd am ei fod o'n byw o hyd yn De Lloegr, ac i'w glywed yn Saesneg prin fasai neb yn sylweddoli Cymro Cymraeg ydy o, ac un sy'n gallu ffrwydro ar y donfeydd wrth bod yn dyst i gôl i Gymru, a chreu rhai o'r 'sgôrgasms' mwyaf anhygoel gei di glywed yn y Gymraeg, neu unrhyw iaith arall mae'n debyg!

No comments: