23.11.09

derbyniad analog yn dod i ben.....

Erbyn dydd sadwrn, mi fydd y signal analog sy'n ein cyrraedd o Foel y Parc wedi cael ei diffodd am y tro olaf. Be' yn union bydd hyn yn golygu iddyn ni ochr yma i'r ffin does neb yn gallu dweud eto. ar y foment does dim modd i ni dderbyn rhaglenni S4C ar y 'Freeview', er mae gen i 'erial' sy'n cyfeirio at drosglwyddydd Moel y Parc, tua ddeuddeg milltir i ffwrdd. Ond dyni yn derbyn rhai sianeli digidol o'r un un drosglwyddydd yn perffaith clir..! BB1 a BBC2 Wales er enghriafft, ac ambell i sianel siopa hollol diwerth!

Wnes i glywed rhywun ar Daro'r Post yn cwyno am ddiffyg S4C yn ardal Wrecsam ers i'r newid i ddigidol,ond awgrymodd yr 'arbennigwr technegol' bod y signal digidol yn debyg o fod yn gryfach ar ôl dydd gwener, a'r newid i ddigidol yn gyfan gwbl. Wna i geisio ail-diwnio'r teledu dros y penwythnos er mwyn gweld os fydd 'na signal digon cryf yn croesi'r ffin ar ôl i'r holl newudiadau, croesi bysedd!

2 comments:

Corndolly said...

Ydy hi'n gweithio rŵan? Cofia am S4C Clic ar y we os wyt ti'n dal i gael problemau

neil wyn said...

Mae'n debyg dy fod ti wedi darllen fy mhost nesa' erbyn hyn, ond yndy, mae pob dim yn iawn rŵan oedd yn sypreis braf!

Felly 'Sgorio' amdanhi am hanner wedi deg!