19.11.09

Ysgytwad!!

Ges i fy synnu heddiw, wel na, ges i ysgytwad wrth glicio ar stori am flogio Cymraeg ar wefan Golwg360 y p'nawn 'ma. Yno, ymhlith rhestr o'r deg blog uchaf 'amateur' mi sylwais ar y blog hwn! Iawn, rhif deg oedd hi, a nid ar sail y nifer o ddarllenwyr mae'n siwr, ond dewis un o dîm Golwg am wn i. Rhaid cyfadde teimlais wefr ar weld yr enw ymhlith y rhai ro'n i'n disgwyl eu gweld, y mawrion o'r byd bach yma, Morfablog (blog des i o hyd iddo cyn i mi hyd yn oed gwybod be' mae 'blog'!) Dogfael, ac y clasur 'Arth sy'n Dawnsio'.

Yn ôl yr erthygl, mi ddechreuodd Clecs Cilgwri ym 2004, dwi ddim yn cofio a dweud y gwir. Mae 'na wedi bod cyfnodau tawel mae'n siwr, ond mae gwneud y cofnodion yma wedi bod yn rhan pwysig o'r proses o ddysgu Cymraeg i mi, a falch iawn ydwi o'r rhai sydd wedi ei ddilyn dros y flynyddoedd.

3 comments:

Linda said...

Hei ...da iawn ti Neil ! Mi welais y rhestr yn gynharach ar Golwg 360 ar y we. Llongyfarchiadau i ti :)

Nic said...

Llongyfarchiadau i ti, Neil. Dylet ti fod wedi bod yn uchaf yn y rhestr, yn fy marn i.

A bod yn onest, wnes i deimlo bach yn anghyfforddus gweld Morfablog ar y rhestr o gwbl, gan fy mod i wedi bod yn esgeulus iawn gyda'r blogio ers dwy flynedd a mwy, ac wi'n gallu meddwl o sawl blog sy'n haeddu mwy o sylw y dyddiau 'ma, dy un di yn un ohonyn nhw.

Dw i wedi defnyddio cofnodion Clecs Cilgwri yn fy nosbarthiadau i yn Aberteifi, i drial cael y dysgwyr yna i fynd ati i ddechrau eu blogiau eu hunain. Does neb wedi codi i'r her hyd yn hyn, ond gawn ni weld.

neil wyn said...

Diolch yn fawr Linda a Nic.

Fasai'n braf gweld mwy o flogiau gan ddysgwyr, er mai nifer o fy nosbarth wedi cofrestru ar Blogger er mwyn gadael sylwadau ond doedd neb wedi dechrau blog eto, ond cawn ni weld!