23.12.09

Cysill Ar-lein

Dyma fi'n defnyddio Cysill Ar-Lein i gywiro fy ngwallau di-ri am y tro cyntaf. Wna i ddweud ar ddiwedd y paragraff hwn faint yn union o gywiriadau derbyniais, ond ar ôl i mi dorri a gludo nifer o baragraffau eraill yn y teclyn arbennig yma, ges i fy siomi ar yr ochr gorau i weld cyn lleied o wallau (wel, o dan ddeg!). Wrth gwrs nad ydy'r gyfundrefn hon yn gallu cydnabod pob gwall, ac mae'n bosib mae'n siŵr i bethau llithro drwyddi, yn enwedig pethau a ysgrifennwyd gan ddysgwr, ac i frawddegau i beidio gwneud synnwyr heb fod yn 'anghywir', os ti'n gweld fy mhwynt!


(dwi wedi gwthio'r botwm 'gwirio' a deg oedd y nifer o wallau wnaeth Cysill tynnu fy sylw atynt! y rhan mwyaf yn gamsillafiadau i fod yn deg ac ychydig o gamdreiglo wrth gwrs! a diolch i Junko am dynnu fy sylw ati)

2 comments:

Emma Reese said...

Mae o'n reit hwylus, ynte? Ac mae'r staff yn ddiwyd hefyd. Unwaith sgwennes i atyn nhw am bwynt gramadegol ac atebon nhw fi'n syth wedi archwilio'n drylwyr.

Ond dydy Cysill ddim yn hoffi tafodieithoidd!

Corndolly said...

Dyna beth roedd rhaid i mi ystyried cyn gofyn i Siôn Corn am gopi. Ond mae'n ddigon da i ddangos pethau dwp a 'theipos' hefyd.