30.12.09

Pethau Nadoligaidd.......

Wel gawsom ni Nadolig braf, gyda Siôn Corn yn llenwi'n hael sachau pawb ;). Mi aethon ni am dro ar y traeth efo'r cŵn (oedd bron yn wag) ar ôl mynd i'r eglwys, cyn eistedd lawr am bryd o fwyd adre efo teulu Jill, a sesiwn agor anrhegion arall wrth rheswm...

Diwrnod gŵyl Sant Steffan, mi yrron ni draw i Macclesfield i dreulio'r ddiwrnod yn nhŷ fy chwaer a'i phartner, lle roedd fy rhieni'n aros, ac am fwy o bresentau! Fel sy'n traddodiadol adeg yma'r flwyddyn, cawsom brydiau eraill, er gwaethaf bod yn llond ein bolau o'r ddiwrnod gynt! Diwrnod hyfryd arall!

Ar ran fy merch, mae ei hanrheg mwyaf poblogaidd wedi bod 'Super Mario Bros', sef fersiwn newydd o'r hen gêm sy'n addas i'r Wii. Efo hyd at bedwar o 'reolwyr' ar gael, mae hi wedi bod yn anrheg i'r teulu mewn ffordd, ac dyni wedi chwarae arno fo am oriau maith (ac mae 'na bumb o fydoedd dal i'w goresgyn!).

Ar ran fy anrhegion fy hun, ges i bentwr o bethau braf, gan cynnwys y llyfr 'Mr Blaidd' gan Llwyd Owen (digwydd bod a gafodd ei grybwyll i fy Mam ym mlaenllaw ), nofel sydd wedi gafael ynddof yn dynn yn barod, a hynny ar ôl i bedwar pennod yn unig! Mae Llwyd Owen yn gwybod yn iawn sut i sgwennu stori gafaelgar a darllenadwy erbyn hyn (er braidd yn 'graffeg' i rai mae'n siwr), ac dwi'n wrth fy modd bod mewn canol llyfr mor dda. Dwi'n methu aros darllen y pennod nesaf!

2 comments:

Corndolly said...

Dw i'n falch o glywed bod gennyt ti Nadolig da iawn ! Cawson ni un eitha tawel ar wahan i broblemau efo pethau technegol. Ond dw i'n falch bod hi wedi drosodd.

Emma Reese said...

Daeth ffrind fy mab â Wii i ni gael ei chwarae dros yr Wyl Ddiolchgarwch. Mi ges i gymaint o hwyl yn chwarae 'hand bell' ynghyd â'r plant er fy mod i byth yn chwarae unrhyw gêm cyfrifiadurol fel arfer.