3.12.09

Digwydd bod neithiwr ro'n i'n eistedd yn y lolfa yn trio tiwnio mewn i radio 5 ar y teledu er mwyn clywed y 'penalty shoot out' yn y gêm rhwng Blackburn a Chelsea (ennillodd Blackburn), pan sylwais ymhlith y sianeli di-ri sydd ar gael ar Freeview S4C. Be' sy'n rhyfedd am hynny? gallwch chi dweud! Wel mae'r teledu yn y lolfa'n derbyn signal gan hen erial sy'n cyfeirio at trosglwyddwr 'Winter Hill' yn Swydd Caerhirfryn, sy'n dweud rhywbeth am gryfder y signal sy'n ymledu dros y ffin o Foel y Parc.

Yn sgîl y canfyddiad yma, wnes i wylio cwpl o raglenni ro'n i heb eu gweld ar y sianel o'r blaen, sef 'Gofod' a 'Cymru Hywel Williams'. Mae Gofod yn cynnig rhaglen cylchgrawn am deg o'r gloch y nos, amser da am raglen llawn amrywiaeth ac 'agwedd' ifanc a ffres, da iawn S4C. Yng 'Ngymru Hywel Williams' cawn ni weld Hywel yn troedio o gwmpas Cymru a'r byd yn sylwebu ar hanes agweddau gwahanol o bywyd Cymreig boed diwylliannol (fel heno), dywydiannol neu economaidd. Yn y rhaglen heno 'ma, mi feirniadodd yr hanesydd o Lundain y sefydliad Eisteddfodol Cymraeg, a'r dylanwad cryf mae'r mudiad hwnnw yn dal i gael ar bob agwedd o'r diwylliant Cymraeg. Galw iddo fo fod yn llai cul ei agwedd oedd Hywel Williams, rhywbeth wnaeth Saunders Lewis rhai degawdau yn ôl fel glysom ni yn y rhaglen, Unwaith eto da iawn S4C...

No comments: