Sgwennais ddoe am ddosbarth olaf y flwyddyn, ond camarweiniol oedd hynny am ges i ddosbarth flwyddyn un y heno 'ma cyn orffen am y Dolig.
Wnes i gwis bach iddynt, wedi ei seilio ar yr un wnes i efo flwyddyn dau, ond efo mwy o gwestiynau Cymreig eu naws, gan roedd rhaid i mi gyfiethu'r rhan mwyaf ohonynt beth bynnag. Welais i mo'r bwynt o ofyn cwestiynau cyffredinol mwy neu lai yn Saesneg, well gen i gynnig cwestiynau mwy neu lai yn Saesneg ond am Gymru, os ti'n deall be' dwi'n meddwl!
Mi aeth y cwis yn dda (dwi'n meddwl), ac efo cwta chwater awr ar ôl mi wnaethon ni drwy geiriau 'Tawel Nos' a thipyn o eirfa nadoligaidd hefyd. Ar ôl i mi ddod a phethau i ben a dymuno pawb Nadolig Llawen, dyma rhywun yn gadael pecyn ar y desg yn cynnwys dwy botel o win efo labeli arbennig yng Nghymraeg wedi eu gosod arnynt, a dau focs o siocled hefyd, fel anrhegion dolig gan y dosbarth gyfan, a cherdyn wedi ei wneud gan un o'r dosbarth llawn cyfeiriadau doniol i'r cwrslyfr! A phetasai hynny ddim yn digon mi wnaethon nhw i gyd dechrau canu 'Dymunaf Nadolig Llawen'. Am falchder! Dangosodd fy nghymeradwyaeth, cyn bygwth trefnu darn iddynt i ganu yn Eisteddfod y Dysgwyr ym mis chwefror! Roedd hi'n diweddglo melys iawn i dymor sydd wedi bod yn eitha heriol ar ran addasu i ddosbarth ychydig yn fwy, ac efo bwlch mwy rhwng gallu y gwahanol dysgwyr. Diolch i bawb!
3 comments:
Da iawn ti!
Diolch yn fawr Junko :)
Stori hyfryd mewn wir ysbryd y Nadolig, Neil !!
Post a Comment