Prin iawn fydd fy amser i flogio'r wythnos 'ma. Dyni wedi cytuno dyddiad 'cwblhad' ar werthiant tŷ fy nhad yng nghyffraith, ac hynny ar ddydd gwener! felly gyda'r holl gwaith arferol i wneud hefyd mi fydd hi'n wythnos go brysur.
A dweud y gwir mae hi wedi bod cyfnod llawn straen, achos gaethon ni ein gwthio braidd i dderbyn dyddiad yn gynt na fasen ni wedi licio, mewn rhan oherwydd y dolig sydd yn agoshau'n reit sydyn erbyn hyn, ond roedd rhaid i ni ystyried sefyllfa'r prynnwyr (sy'n cael eu gorfodi i adael y tŷ eu bod nhw'n ei rentu) dydd gwener. Gyda'r chwaer yng nghyffraith a'i theulu'n byw tipyn o bellter o fan'na, mi roddodd y dyddiad cryn bwysau ar Jill a finnau i fynd amdanhi i wneud y gwaith, ac mae hi wedi bod yn annodd i chwaer Jill i ffindio'r amser i deithio draw i ddweud ffarwell wrth cartref ei phlentyndod, a sortio allan ei phethau ei hun sydd yno o hyd.
Ta waeth, mi fydden nhw'n dod draw dydd mercher (sy'n braf gan bod o'n digwydd bod penblwydd Jill, a fydda i yn y Coleg) er mwyn gwneud pethau munud olaf a dweud hwyl fawr i'r tŷ, mi fydd hi'n diwedd penod.....
No comments:
Post a Comment