Tynnodd sylw y dorf i'r ffaith ei bod hi'n wynebu arwydd enfawr ar wal cefn y neuadd gyda'r enw Glyndŵr arno, atgof parhaol i barchu'r Gymraeg, a rheswm, meddai hi, i wneud chwater y set yn yr iaith! Ni gaethon ni gymaint â hynny mewn gwirionedd ( tri cân os cofiaf yn iawn), ond roedd Cerys yn ymfalchio o fod yn ardal y Tywysog yn ogystal a gwirioni gyda'r enw Rhosllanerchrugog, a welodd ar arwyddion ffyrdd. Gosodwyd yr her o ddysgu sut i'w dweud (yn ystod yr egwyl) i Mason druan, er gafodd ei ryddhau o'i ddyletswydd ar ôl i Cerys darganfod bod 'Rhos' yw enw dydd i ddydd y pentre.
Uchafbwynt y noson i sawl oedd perfformiad gwefreiddiol o 'Mulder & Scully', a dyma'r eildro yn unig iddi hi'w chanu ers i Catatonia chwalu. Ond i mi roedd ei chlywed hi'n dehongli nifer o ganeuon traddodiadol yr un mor drawiadol, un o'r Alban, ac wedyn cwpl oddi wrth ei prosiect newydd 'Tir', sef casgliad o ganeuon traddodiadol a lluniau sy'n cael ei rhyddhau ym mis Medi. Ym 'Migildi Magildi' gafodd yr americanwr Neely i ddatgelu enw'r canwr byd enwog sy'n perfformio y deuawd ar y CD (Bryn Truffle) cyn ei ganu'r rhan ei hun! a fel encore gwahoddwyd pawb i ymuno mewn fersiwn bywiog o Sospan Fach.
Mae'r daith yn mynd yn ei flaen am ddeg diwrnod arall gan cynnwys nifer o berfformiadau o amgylch Cymru, ac mi faswn i'n cymeradwyo cwpl o oriau mewn cwmni Cerys a'i cherddorion yn fawr iawn.
2 comments:
Mae'n anodd creu, ond doeddwn i ddim yn gwybod am y gyngerdd nes i mi ddarllen neges amdani ar Facebook. A fi sy'n mynd i'r brifysgol. Mae hyn yn anodd credu, does gen i ddim gwybodaeth ymlaen llaw rhywsut.
Wnes i ddigwydd gweld rhestr o gigs ar wefan Cerys Matthews am ryw rheswm (dwi ddim yn cofio pam ro'n i'n edrych arni rwan!), ond ges i lyfryn gan y prifysgol gyda'r tocynnau'n rhestri'r holl digwyddiadau sydd ymlaen dros y misoedd nesaf.
Post a Comment