2.4.10

Maen 'Thor'



Un o fy hoff lefydd yng Nghilgwri yw Cytir Thurstaston, ardal o rostiroedd a choedwigoedd, a harddwch naturiol sydd wedi ei gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers tua canrif erbyn hyn. Uchafbwynt taith i Thurstaston i ni fel plant oedd y cyfle i ddringo 'Thor's Stone', lwmpyn o dywodfaen sy'n codi o ganol pant yn y tirlun. Mae 'na straeon di-ri am hanes y graig hon,  rhai yn cysylltiedig gyda seremoniau creddfol y llychlynwyr a setlodd tua mil o flynyddoedd yn ôl.   Fel sawl genhedlaeth o'n blaenau, fe gerfiom ni ein enwau ar wyneb meddal y graig wrth ddringo i'w chopa, gan grafu arni gyda unrhywbeth oedd ar gael.

Dyna pam dewisiais gip ohoni fel cefndir i 'header' newydd y blog.  Dyma rhywbeth sy'n cynrychioli Cilgwri mewn ffordd, yn enwedig lliw y tywodfaen, sy'n rhedeg trwy'r penrhyn fel asgwrn cefn - onibai am yr haeni o dywodfaen, mae'n debyg mi fasai'r tir wedi ei grafu i ffwrdd yn gyfan gwbl gan yr oes yr iâ diweddaraf!  O liw y carreg mae'n bosib daeth enw Cymraeg y penrhyn hefyd:  'Cil-gwrid' gyda ystyr 'gwrid' yn cyfeirio efallai at gochni'r cerrig.    

1 comment:

Emma Reese said...

'Na ddiddorol. Dw i'n hoffi golwg newydd dy flog.