Sedd 'marginal' yw Gorllewin Cilgwri, gyda aelod seneddol o'r enw Stephen Hesford yn ein cynrychioli ar ran y Plaid Lafur ers 1997. Ond tir naturiol y Ceidwadwyr yw hi yn y bon, gyda'r Toriaid yn rheoli ers 1945, a disodlwyd y rheiny dim ond gan dirlithriad y Blaid Lafur '97, a hynny o dan arweiniad 'ceidwadol' Tony Blair. Y tro 'ma, gyda Mr Hesford yn rhoi'r ffidl yn y to (oherwydd 'rhesymau teuleuol'..... er tybiwn i 'neidio cyn gael ei wthio' yw'r rheswm go iawn), ac yntau wedi ennill parch trwy gweithredu dros ymgyrchoedd lleol, prin iawn yw'r siawns o weld Llafur yn dal y sedd. Dwi newydd darganfod 'Phil Davies' yw enw ein ymgeisydd seneddol newydd ar ran y Blaid Lafur, ond does fawr o wybodaeth amdano ar wefan y Blaid hyd yn hyn (tipyn o wendid yn yr oes sydd ohoni). Mae o'n bell ar ei ôl yn barod ac mi fydd rhaid iddo fo ganfasu'n aruthrol o galed i wneud argraffiad ar yr etholwyr, sydd yn ôl y polau piniwn wedi troi yn erbyn Gordon Brown a'i Blaid Lafur.
Fel canlyniad wnawn ni weld y Tori Esther McVey yn sicrhau ei lle yn San Steffan. Gwahoddwyd y cyn gyflwynwraig teledu i fod yn llywodraethwraig yn ysgol fy merch, ychydig o fisoedd cyn ddod yn ail agos i Mr Hesford yn 2005. Roedd Mr Hesford 'wrth rheswm' yn llywodraethwr mewn ysgol, ond ysgol ei fab oedd hynny, does gan Ms McVey dim plant, a ches i fy ngwylltio gan apwyntaid mor 'crass' gan yr ysgol, sydd ddim yn lle addas i ddarpar-wleidydd rhoi sglein ar ei delwedd yn fy mharn i.
Ta waeth, gyda dros tair wythnos o ymgyrchu sy'n dal i fynd, fydda i a phawb arall yn y wlad yn siwr o gael llond bol o wleidyddiaeth, er rhaid i mi gyfadde fy mod i'n eitha fwynhau'r holl dadleuon gwleidyddol a welwyd ar raglenni fel 'Question Time' a 'This Week' (a 'Phawb a'i Farn' a 'CF99' wrth rheswm!). Y tro hwn y cawn ni dri 'dadl teledu' rhwng arweinwyr y prif pleidiau hefyd, datblygiad 'americanaidd' bod y gwleidyddion wedi trio gwrthod ers degawdau, ond rhywbeth sy'n amlwg at dant y cyfryngau, a'r cyhoedd efallai. Gyda'r dau brif arweinydd yn derbyn hyfforddiant gan rai o gynghorwyr yr Arlwydd Obahma yn ôl y son, mi fydd yr holl beth yn dipyn o sioe mae'n siwr, er nid fawr o gymhorth i ni efallai. Mi fydd yr un gyntaf yn cael ei darlledu nos iau, felly cawn ni weld..
No comments:
Post a Comment